Mi wnes i greu pôl ar Twitter yr wythnos yma yn cynnig dau opsiwn damcaniaethol ar gyfer ein gêm nesaf. Wnes i ofyn a fydde cefnogwyr Cymru yn dewis gêm anodd i’r tîm, ond un lle’r oedd hi’n bosib i gefnogwyr fynd i’r stadiwm? Neu gêm hawdd i’r tîm fyddai yn cael ei chwarae yn rhywle sy’n amhosib i gefnogwyr deithio iddo?

Mi wnes i ryfeddu i ddarganfod bod y farn wedi ei rhannu lawr y canol, 50/50.