Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 heno (28 Mehefin).

Cafodd enwau’r deuddeg llyfr Cymraeg fydd yn brwydro am y Wobr eleni eu cyhoeddi ar raglen Stiwdio ar Radio Cymru, ac mae’r teitlau i gyd yn “ddathliad o feddyliau craff, treiddgar a chreadigol”.

Mae pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobl Ifanc – a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar Radio Cymru rhwng 2 a 4 Awst.

Nos Lun 9 Awst, bydd rhaglen awr o hyd ar Radio Cymru i ddathlu’r holl gyfrolau buddugol.

Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr, gydag enillydd pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac enillydd y brif wobr yn derbyn £3,000 ychwanegol.

Yn ogystal, bydd pob enillydd yn derbyn tlws Llyfr y Flwyddyn, sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a’r gof Angharad Pearce Jones.

Gwobr Farddoniaeth

Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

Rhwng dwy lein drên, Llŷr Gwyn Lewis (Hunan Gyhoeddedig)

Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Ffuglen

Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)

Tu ôl i’r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)

#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

“Herio a swyno”

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r bardd a’r awdur, Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd, Tomos Owen; a’r comedïwr a cholofnydd, Esyllt Sears.

“Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron,” meddai Anni LLŷn, ar ran y panel beirniadu.

“Mae’r rhestrau byr yn ddathliad o’r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan pob un o’r rhain rhywbeth o werth i’w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i’w darllen.

“Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o’r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno.

“Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu.

“Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020. Ond dylem i gyd ymfalchîo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt.”

“Creu argraff”

“Mae Stiwdio yn falch iawn o fod yn llwyfan i’r digwyddiad a’r wobr bwysig yma. Mae’r rhestrau byrion yn rhai difyr – lleisiau ifanc, lot o ferched!” meddai Nia Roberts, cyflwynydd rhaglen Stiwdio.

“Ac mae un neu ddau o’r cyfrolau yn sicr wedi creu argraff arna’ i ac wedi aros efo fi sbelan ar ôl cau’r cloriau. Mi fydd yn ddiddorol gweld be fydd barn y beirniaid a barn y bobol.”

“Cysur a chwmnïaeth”

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei threfnu gan Lenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru, a thalentau newydd, wedi derbyn gwobrau.

“Mae’r rhestr fer hon yn adlewyrchu ystod o leisiau aruthrol awduron Cymru, yn ystod cyfnod eithriadol o anodd,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Mae nifer ohonom wedi dianc rhwng cloriau llyfr da yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac mae cynnyrch y Rhestr Fer hon yn sicr wedi cynnig cysur a chwmnïaeth i sawl darllenydd.

“Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch yr holl awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed.

“Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru.”

Bydd rhestrau byr y gwobrau Saesneg, sy’n disgyn dan yr un pedwar categori, yn cael eu cyhoeddi ar The Arts Show ar BBC Radio Wales nos Wener 2 Gorffennaf.

Mae’r beirniaid ar gyfer y cyfrolau Saesneg yn cynnwys y bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, darlledwr a’r siaradwr cymhelliant Tanni Grey-Thompson, sydd hefyd yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi; a’r academydd, awdur, actifydd, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Charlotte Williams.

Bydd enillydd y categorïau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ddiwrnod olaf Gorffennaf.

Barn y Bobol

Mae cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud hefyd, gan fod yr holl deitlau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer yn cystadlu am Wobr Barn y Bobol, mewn cydweithrediag â Golwg360.

Gallwch bleidleisio dros eich hoff gyfrol isod.

Gwobr Barn y Bobol Llyfr y Flwyddyn 2021

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau am 5pm, dydd Gwener 23 Gorffennaf!