Mae’r deuddeg llyfr sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi cael eu henwi.
Bydd y beirniaid, Guto Dafydd, Anni Llŷn, Tomos Owen ac Esyllt Sears, yn penderfynu ar enillwyr y pedwar categori a’r brif wobr.
Fodd bynnag, mae cyfle i’r darllenwyr gael dweud eu dweud a phleidleisio dros eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobol mewn cydweithrediad â Golwg360.
Bydd y bleidlais yn aros ar agor tan 23 Gorffennaf, a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 4 Awst ynghyd â phrif enillydd Llyfr y Flwyddyn 2021 ar Stiwdio, rhwng 9 a 9:30yh.
Gwobr Farddoniaeth
Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)
Mae Elin ap Hywel yn fardd, awdur, a chyfieithydd sy’n byw yn Llanilar, ac mae ei cherddi wedi’u cyfieithu i sawl iaith ar hyd y blynyddoedd.
Mae bron i ddeugain mlynedd ers iddi gyhoeddi ei chasgliad byr cyntaf o farddoniaeth yn Gymraeg, Pethau Brau. Ers hynny, mae Elin ap Hywel, sy’n dod yn wreiddiol o Fae Colwyn ond a dreuliodd ei phlentyndod yn Llundain a Wrecsam, wedi bod yn barddoni ar bynciau amrywiol, y difrifol a’r gobeithiol.
Y mesur rhydd yw cyfrwng cerddi’r gyfrol hon, ac mae Bryan Martin Davies wedi’i disgrifio fel “myfyrdodus, dwys, gwbl unigryw ei chrefft”.
Rhwng dwy lein drên, Llŷr Gwyn Lewis (Hunan gyhoeddedig)
Yn y man cyfarfod rhwng dwy linell drên, daw dau fywyd ynghyd yn yr ail gasgliad hwn o gerddi gan Llŷr Gwyn Lewis.
Cafodd y cerddi eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod clo, ac maen nhw’n myfyrio ar y cyflwr dynol wrth i’r awdur archwilio’r berthynas rhwng dyn ifanc a’i bartner, wrth iddyn nhw brofi genedigaeth eu mab, a’r newidiadau ddaw yn sgil hynny.
Cyhoeddwyd cyfrol ryddiaith ddiweddaraf Llŷr Gwyn Lewis, Fabula yn 2017, ac enillodd Stôl Ryddiaith yng Ngŵyl Amgen yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd. Mae e’n byw yng Nghaerdydd, ac yn aelod o dîm Talwrn y Ffoaduriaid a chriw Bragdy’r Beirdd.
Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)
Cyfrol i Dafydd Tudur, brawd Marged Tudur, yw Mynd. Mae ynddi golled a galar, ond cariad, yn fwy na dim byd arall, sy’n llinyn arian drwy’r holl gerddi.
Daw Marged Tudur yn wreiddiol o Forfa Nefyn, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio fel golygydd.
Graddiodd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i astudio MA Ysgrifennu Creadigol, a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner canrif ddiwethaf fel llenyddiaeth.
Gwobr Ffuglen
Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)
Nofel amlhaenog gyda themâu cyfoes yn rhedeg drwyddi yw Wal, gan ddilyn fformat llyfr sy’n helpu plant ddysgu darllen.
Wrth i’r nofel fynd rhagddi, mae ffont geiriau’n mynd yn llai, sy’n arwydd o ddatblygiad llythrennedd plentyn, ac yn arwydd fod y prif gymeriad, Siân, yn dysgu mwy amdani ei hun a chofio’n ôl at ei magwraeth.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, aeth Mari Emlyn yn ei blaen i astudio’r Celfyddydau Perfformio yn Llundain. Ers hynny mae hi wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd, ac awdur, yn ogystal â threulio cyfnod fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon.
Tu ôl i’r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Dyma nofel gyntaf Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle, sy’n dilyn Anest a Deian, dau ddisgybl chweched dosbarth.
Mae hi’n nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.
Mae gwaith Megan, sy’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi’i gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt yn y gorffennol, ac 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru.
Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)
Mae Lowri, prif gymeriad Twll Bach yn y Niwl, mewn twll. Mae hi’n methu â dod o hyd i waith, yn gorfod ymdopi â salwch ei mam, yn treulio pob noson yn y dafarn, ac yn cael ei dympion.
Buan y mae hi’n dysgu na ddaw neb i’w hachub, a bod rhaid iddi achub ei hun.
Daw Llio Elain Maddocks o Lan Ffestiniog, ac mae hi bellach y byw yng Nghaerdydd. Yn awdur, bardd, ac yn disgrifio ei hun fel ‘rêl milenial’, mae hi’n ysgrifennu ac yn barddoni am y profiad o fod yn ferch yng Nghymru heddiw.
Ffeithiol Greadigol
O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)
Dyma’r cofiant llawn cyntaf i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes, yn eilun ei genedl. Ynddo ceir portread tra gwahanol o O.M. i’r fytholeg gyfarwydd yn ei gylch, a gwelid ef yma yn ieuenctid ei ddydd.
Rhoddir sylw i’r yrfa, ac i’w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru, yn ogystal â chyflwyniad i’r dyn preifat a gafodd ei gaethiwo gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad.
Wedi’i magu yng Nghwm Gwendraeth, bu Hazel Walford-Davies yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru.
Ymhlith nifer o gyflawniadau, bu’n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd yr Academi Gymreig, a chadeirydd cyntaf Bwrdd Ymgynghorol y Deyrnas Unedig o Gymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru.
Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)
Dyma ddeuddeg o ysgrifau sy’n mynd i bob meth o gyfeiriadau – a chreu cysylltiadau annisgwyl.
Nofelydd ac academydd yw Angharad Price, sy’n Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysol Bangor. Enillodd ei nofel O! Tyn y Gorchudd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002, a chyrhaeddodd Caersaint restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011.
Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)
Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau’r diwydiant cyhoeddi, ond prin yw’r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth i blant yn Gymraeg.
Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â’r bwlch hwnnw, gan ddadlau dros arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol llenyddiaeth plant.
Trwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dangosa’r gyfrol fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig i ddeall sut mae syniadau ac agweddau’n cael eu trosglwyddo a’u trawsffurfio.
Mae Siwan M. Rosser yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a’i phrif faes ymchwil yw Llenyddiaeth Gymraeg i blant a phobol ifanc.
Plant a Phobol Ifanc
Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)
Yn byw yng Nghaerdydd, mae Huw Aaron yn gweithio fel dylunydd a chartwnydd. Mae Huw wedi darlunio nifer o lyfrau i blant a stribedi comig, gan gynnwys i’r cylchgrawn poblogaidd Mellten.
Yn y llyfr hwn, mae Boc, y ddraig fach ddiniwed, wedi mynd ar goll unwaith eto – y tro hwn ym mydoedd dychmygol Cymru.
#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Mae colli’r bws i’r ysgol yn newid bywyd Rachel, sy’n penderfynu mynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adre.
Wrth lanio mewn clwb nos ar lan y môr, mae hi’n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy’n gwybod rhywbeth am ei gorffennol… cyfrinach allai chwalu ei theulu.
Cafodd Rebecca Roberts ei magu ym Mhrestatyn, ac mae hi’n byw yno gyda’i theulu. Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd.
Mudferwi oedd ei nofel gyntaf, ac mae #Helynt, ei hail nofel, yn rhan o gyfres i bobol ifanc.
Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)
Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw. Mae Y Castell Siwgr yn stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell, ac am ddioddefaint tu hwnt i’r dychymyg.
Mae’r nofel yn ceisio mynd i’r afael â’r cysylltiad sydd gan Gymru â chaethwasiaeth.
Enillodd Angharad Tomos y Fedal Ryddiaith gyda Si Hei Lwli yn 1991, a Wele’n Gwawrio yn 1997, a hi sy’n gyfrifol am Gyfres Rwdlan.
Mae hi’n awdur llarwydd ers bron i ddeugain mlynedd, ac wedi ysgrifennu ac arlunio lluniau i blant, pobol ifanc, ac oedolion.