Mae rhai o ffigurau amlycaf y diwydiannau creadigol wedi cefnogi galwadau am dreth untro ar ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i lawrlwytho a storio “cynnwys creadigol” er mwyn rhoi hwb i’r diwydiannau creadigol.

Dyweda trefnwyr The Smart Fund fod posib codi hyd at £300 miliwn y flwyddyn petai bobol yn talu rhwng 1-3% o werth dyfeisiau megis ffonau symudol, gliniaduron a chyfrifiaduron.

Byddai’r arian yn cael ei gasglu mewn cronfa ganolog a fyddai’n cael ei defnyddio i “wobrwyo crewyr a pherfformwyr yn deg wrth iddyn nhw greu bywoliaeth drwy eu cynnwys”.

Buddsoddiad “anferth”

Mae trethi tebyg yn bodoli mewn 44 gwlad arall, meddai’r trefnwyr, sy’n cynnwys grwpiau sy’n cynrychioli artistiaid, awduron, perfformwyr, a chyfarwyddwyr.

Byddai’r arian yn creu buddsoddiad blynyddol “anferth” i’r diwydiannau creadigol, ac yn cynnig hwb economaidd ehangach hefyd, yn ôl y Smart Fund.

Gan gyfeirio at Ŵyl y Gelli, manyla’r grŵp ar sut mae’r diwydiannau creadigol yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi, gweithwyr, a’r ardal leol.

Bob blwyddyn mae 400 o swyddi’n cael eu cefnogi gan Ŵyl y Gelli, ac mae’r ŵyl yn creu “buddion uniongyrchol, gwirioneddol i’r Gelli Gandryll – tref sydd gydag ychydig o drafnidiaeth leol, a chysylltedd band eang a signal ffôn gwael”, meddai’r Smart Fund, gan bwysleisio pwysigrwydd y diwydiant.

Mae Olivia Colman, Syr Frank Bowling, Imelda Staunton, Rachel Whiteread a Yinka Shonibare ymysg rhai o’r perfformwyr a’r artistiaid sy’n cefnogi’r galwadau.

“Dim rhaid meddwl ddwywaith”

“Does dim rhaid meddwl ddwywaith am y Smart Fund,” meddai’r artist Yinka Shonibare.

“Ar y funud does dim ffordd effeithiol i grewyr gael eu talu pan mae eu gwaith yn cael ei lawrlwytho a’i storio gan gynulleidfaoedd.

“Mae hyn yn parhau’n un o’r cyfleoedd mwyaf ar gyfer crewyr a pherfformwyr sydd heb ei gyffwrdd eto.

“Mae’r Smart Fund yn cynnig ffordd i fuddsoddi mewn talentau creadigol o bob oed a chefndir a’u cymunedau.”

“Cynnig cynhaliaeth”

“Gan weithio gyda’r diwydiant technoleg ac arloeswyr yn y sector, rydyn ni eisiau cefnogi crewyr a pherfformwyr, i ailadeiladu a hwyluso pethau i’r diwydiannau creadigol, twristaidd, a threftadaeth ddiwylliannol sy’n arwain yn y Deyrnas Unedig, a chyfrannu i’w pŵer addfwyn a’u lle yn rhyngwladol,” meddai Gilane Towadros, Prif Weithredwr Cymdeithas Hawlfraint Artistiaid a Dylunio (DACS).

“Mae’r celfyddydau yn cynnig cynhaliaeth i’r ystafell sy’n pweru adfywiad, adferiad ac adnewyddiad yr holl wlad.”