Mae’r cerddor, bardd ac awdur David R Edwards wedi marw yn 56 oed, wedi iddo ddioddef problemau iechyd oedd yn cynnwys epilepsi a chlefyd siwgr.
Yn brif leisydd y band Datblygu, roedd yn gerddor arbrofol a’i fand oedd yr unig un o Gymru i gael pum sesiwn recordio gan y DJ enwog John Peel ar Radio 1 y BBC.
Un o Aberteifi oedd David R Edwards, a bu yn byw yn Aberystwyth cyn setlo yng Nghaerfyrddin.
Fe gychwynnodd y band Datblygu yn 1982 gan recordio llu o ganeuon crafog, gonest a dylanwadol megis ‘Y Teimlad’, ‘Gwlad ar fy nghefn’, ‘Cân i Gymru’, a ‘Maes E’.
Ac yn ei gyfweliad olaf gyda Golwg y llynedd, i hyrwyddo’r albwm Cwm Gwagle, bu yn egluro ei fod yn dal i gael sbort yn creu caneuon gyda’i bartner cerddorol, Pat Morgan.
“Ni byth yn lico sgrifennu caneuon cyffredin,” meddai. “Ni’n lico mynd â phobol off i rywle gwahanol i’r arferol…”
Fe ddylanwadodd Datblygu ar lwythi o fandiau, gan gynnwys y Super Furry Animals wnaeth gynnwys cyfyr o ‘Y Teimlad’ ar eu halbwm enwog Mwng yn 2000.
Yn dilyn ei farwolaeth fe drydarodd neb llai na Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, deyrnged i David R Edwards: ‘Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu’r diwylliant rydym yn ei nabod a’i fwynhau heddiw’.
Ac yn ôl y DJ Rhys Mwyn “fe greodd Dave naratif newydd ar gyfer Cymru [a’r] ffordd orau o dalu teyrnged [iddo] yw i sicrhau nad yw byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu.”
Arwydd o ddylanwad Datblygu ar y to iau yw bod teitl un o’u halbwms, Libertino, wedi ei roi yn enw ar gwmni recordiau llewyrchus sydd wedi cyhoeddi caneuon bandiau ifanc amlwg megis Adwaith, Breichiau Hir a Kim Hon.
Mae cwmni hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg Pyst wedi ei enwi ar ôl un arall o albwms Datblygu.
Ac fe gafodd y fforwm drafod boblogaidd Maes-e, a grëwyd yn 2002 gan ddenu miloedd o Gymry i drafod y byd a’i bethau yn yr iaith Gymraeg, ei enwi ar ôl un o ganeuon gorau Datblygu, ‘Maes E’.
Yn ogystal â’i gerddoriaeth, fe gyhoeddodd David R Edwards gyfrol o farddoniaeth yn 1992 a’r hunangofiant Atgofion Hen Wanc yn 2009.
Yn dilyn ei farwolaeth, fe ddywedodd cwmni recordiau Ankst, a fu yn cyhoeddi albwms Datblygu, fod yr hunangofiant yn ‘gyfle i David rannu ei gariad tuag at Aberteifi, ei rieni ac arwyr fel Mark E Smith, Captain Beefheart, Frank Sinatra a Ryan Davies, a hefyd sôn am ei atgasedd o awdurdod a disgyblaeth yn yr ysgol a’r gweithle a’i berthynas love/hate gyda Chymru a’r Cymry a oedd yn rhan mor bwysig o’i weledigaeth’.
Yma mae Gohebydd Celf Golwg, Non Tudur, yn talu teyrnged bersonol ac yn egluro dawn un o leisiau mwya’ gwreiddiol a gwefreiddiol y byd canu Cymraeg…
Diffoddodd un o sêr y ffurfafen – seren a daflodd wreichion drwy’r byd pop Cymraeg.
Mae’r sylwadau twymgalon sydd wedi eu rhoi ar y we ers marwolaeth David R Edwards yn brawf o boblogrwydd dyn a fuodd ar y cyrion erioed. Perthyn i fyd ‘tanddaearol’ y sîn roc Gymraeg yr oedd e, lle câi ei safbwyntiau heriol a’i feddyliau miniog wrandawiad teg. Nid ar lwyfan y brifwyl oedd lle Dave Datblygu, ond ym mhafiliwn y gwehilion.
Mae hanes y cynhyrchydd David Wrench ar Twitter am yr adeg y cyfarfu gyntaf ag e yn yr Eisteddfod yn ddifyr. Do, mi faglodd Dave dros ei babell yn y tywyllwch, ond yna: ‘He told me he liked my band and we had a drink. He was incredibly generous and warm to me. It made a huge impression’. Yr ‘incredibly generous’ yna sy’n bwysig.
Yn ogystal â sgrifennu caneuon bythgofiadwy a oedd yn pigo cydwybod y Cymry fel hen bicynen fawr, buodd David R Edwards yn hael ei amser i eraill. Efallai oherwydd amharodrwydd Radio Cymru i chwarae ei gerddoriaeth (gwrthododd cynhyrchydd rhaglen Cadw Reiat ddarlledu sesiwn Datblygu), roedd yn awyddus i gefnogi cerddorion iau a oedd hefyd eisie herio’r drefn.
Nid llawer sy’n gwybod ei fod wedi cynhyrchu casetiau grwpiau eraill. Yn eu plith mae Crisialau Plastig o Aberystwyth, grŵp ifanc (fy mrawd) Gwern ap Tudur, Esyllt Wigley a Douglas Jones. 1987 oedd hi, a hwythau’n 15 oed, a dylanwad Datblygu eisoes yn drwm arnyn nhw. Roedd Datblygu newydd gyhoeddi’r EP Hwgr-grawth-og (Recordiau’r Anhrefn), sy’n cynnwys un o hoff ganeuon John Peel, ‘Casserole Efeilliaid’, ac wedi cyfrannu caneuon i ddwy LP arloesol Recordiau’r Anhrefn, Gadael yr Ugeinfed Ganrif (‘Cyn Symud i Ddim’ a ‘Hollol Hollol Hollol’) a Cam o’r Tywyllwch (‘Y Teimlad’ a ‘Nefoedd Putain Prydain’).
Mae Gwern yn ei gofio yn dod lan o Aberteifi i Aberystwyth, gyda pheiriant recordio pedwar-trac, i recordio’u halbwm, Anoracsia Nervosa, yng nghartref Esyllt Wigley.
“Buodd e’n recordio ein halbwm gynta’ ni, gyda’r vocals [yn cael eu recordio] yn y toilets,” meddai. “Dave wnaeth e i gyd. Roedd e’n gwybod beth oedd e’n ei wneud… ac wedi ei gynhyrchu fe i swnio’n broffesiynol. Roedd caneuon ryff gyda ni, a Dave yn ein hysbrydoli ni i adio pethe rhyfedd atyn nhw. Do’n i ddim rili’n ei ’nabod e, jyst yn ei barchu fel y boi a oedd wedi sgwennu ‘Cyn Symud i Ddim’.”
Roedd yr elfen do-it-yourself yn rhan bwysig o ethos Datblygu byth ers i David R Edwards a T Wyn Davies ffurfio’r band yn 1982, i herio’r ‘Rock Dosbarth Canol y Ffordd’ (cân o’u trydydd casét, Fi Du, 1984).
‘Byd Pop Cymraeg: Yr un peth â 1974… Nid oes ysbryd/arddull gan y pennau proffesiynol ffug R&R hynny. Ond ni yw Datblygu’ – dyma’r geiriau ar glawr casét Caneuon Serch i Bobol Serchog (1984 eto, ond â Patricia Morgan wedi ymuno â’r grŵp).
Digon naturiol oedd hi felly i David fod eisie helpu grŵp fel Crisialau Plastig a dod o hyd i’r bobol iawn i ddatblygu’r casét. “Amser hynny, doedd dim cyfrifiaduron,” meddai Gwern. “Roedd e wedi gwneud pedwar casét cyn hynny ei hun. Doedd Datblygu ddim yn cael eu chwarae ar radio, heb sôn amdanon ni, felly mae’n siŵr bod Dave wedi penderfynu ei wneud e ei hun. Dyna beth oedd yn fy ysbrydoli i…
“Roedden ni mewn oed lle’r ydych chi’n cael eich dylanwadu gan gerddoriaeth newydd beth bynnag, ond bod y dyn hŷn yma wedi cymryd diddordeb a pharch ynon ni, fe a Gorwel (Owen, Recordiau Ofn). Dw i’n cofio fe’n mynd allan i’r caffi amser cinio… roedd e fel gwrando ar Mark E Smith o’r band The Fall yn siarad. Roedd e’n debyg i Mark E Smith, yn hynod ddeallus, ond â phwysau’r byd ar ei gefn.”
Tyfodd poblogrwydd Datblygu yn y sîn, a dyma’r adeg y dois inne i ’nabod Dave yn eitha’ da, yn y 1990au cynnar.
Dyn y Pethe
Roedd David R Edwards yn byw yn un o’r tai mawr ar lethrau allt Consti yn Aberystwyth, lle bu ambell i barti ar ôl stop-tap Rummer Tavern, ac wedyn mewn fflat yn Nhanybwlch, pan fyddai’r giro wythnosol yn llywio llawer ar ei fyd.
Roedd Dave yn gartrefol yn Aberystwyth (‘San Francisco Cymru’), ac yntau wedi hen ffarwelio â byd caethiwus athro. Roedd y dre yn grochan o greadigrwydd yr adeg hynny, diolch i’r holl gwmnïau theatr annibynnol, myfyrwyr drama, ffotograffwyr, artistiaid, ac ymgyrchwyr heddwch a hawliau anifeiliaid (cyfrannodd Datblygu at gasét Artists for Animals, Dyma’r Rysáit gyda Crisialau Plastig, Y Gwasgwyr a Plant Bach Ofnus yn 1988). Mae’r newyddiadurwr Lyn Ebenezer yn ei gofio’n galw draw i’w dŷ ar waelod Rhiw Penglais am glonc dros ganiau o seidr, a ffrind mawr iddo oedd y newyddiadur a’r nofelydd Daniel Davies.
Treuliai oriau ar y sgwâr y tu fas i Siop y Pethe – lleoliad protestiadau a dathliadau Cymraeg y cyfnod – siop fy rhieni, Gwilym a Megan. Fe ddôi i mewn bob p’nawn Mercher fel watsh i ddarllen Golwg o glawr i glawr, yn gawr gwargrwm yn llenwi’r lle, yn pori ac arholi. Fyddai Mam byth wedi gofyn am geiniog ganddo (cyn dyddiau’r we, roedd y siop yn un o’r llefydd prin a fyddai yn stocio recordiau annibynnol Cymraeg). Er cymaint yr ydyn ni’n hoffi’r ddelwedd ohono fel dyn gwrth-sefydliad, y ciciwr tresi, roedd David R Edwards yn ddyn y Pethe.
Y rheswm pam ei fod yn ‘giciwr cydwybod’ (geiriau Aled Hughes ar ei raglen radio drannoeth ei farwolaeth) ac yn ‘ddraenen yn ystlys y sefydliad’ (geiriau’r gwleidydd Mabon ap Gwynfor) oedd ei fod yn caru Cymru. Yn ei charu hi mor dost fel ei fod yn digio at ddifaterwch a diogi’r cyfryngau. Yn lle chwerwi, tra gallodd, trodd y dicter hwnnw yn ganeuon sy’n dal i fod yn berthnasol heddiw. Y rhain yw caneuon ffydd rhai ohonon ni. Yr unig bryd y byddai’n chwerwi go-iawn oedd pan fyddai’r wisgi yn drech.
Yn 1993, cyhoeddodd Datblygu’r record Libertino. Dyma gyfnod raves mawr cefn gwlad a grwpiau indi o dan ddylanwad tecno a house. Roedd gigs Datblygu, a’r band bellach yn cynnwys y brodyr Rheinallt a Peredur ap Gwynedd a John Llwybr Llaethog, yn gorwyntoedd chwyslyd, a’r cyn-athro yn poeri ei gerydd yn fwy hallt nag erioed: ‘Croeshoeliwch y prifathrawon, maen nhw’n hollol wallgof…’ (‘Rauschgiftsuchtige?’).
Tua 1995, ciliodd Dave o’r byd perfformio ac yntau yn fregus ei feddwl. Bu’n dioddef â phyliau o’r fath dros y ddau ddegawd nesaf, yn arbennig wedi marwolaeth ei annwyl rieni. Ond cadwodd yn driw i’w gyfeillion a’i ffans, a llythyru â nhw’n gyson – roedd cael llythyr gan Dave fel cael dafn o aur drwy’r post. A chadwodd ei hiwmor, a byddai wastad yn gwerthfawrogi synau newydd y sîn roc Gymraeg.
Daeth yn ôl iddi yn niwedd y 2000au, ac i sylw edmygwyr iau, yn “aeddfetach” dyn fel y dywedodd ei hun, a chyhoeddi senglau ac albymau newydd gyda Pat Morgan, a’i eiriau’n pefrio o hyd. Doedd neb yn gallu saernïo llinell fel Dave.
Wedi ei farwolaeth, gofynnais i Gofiadur yr Orsedd p’un a gafodd David R Edwards erioed ei ystyried am anrhydeddau’r Orsedd (doedd bod ar restr fer cystadleuaeth Albwm Gymraeg y Flwyddyn am Cwm Gwagle y llynedd ddim yn cyfri rywsut). Nid yw ei enw ar eu cronfa ddata, meddai, ond wyddai hi ddim a gafodd ei enwebu gan fod y wybodaeth honno’n gyfrinachol. Pe bai wedi cael cynnig ac wedi gwrthod, byddai hynny hefyd yn gyfrinachol (diau y byddai wedi datgelu’r newyddion pe bai wedi cael ei enwebu?). Er iddo ganu ‘Mae Gorsedd y Beirdd yn y Ku Klux Klan’, oni ddylai’r sefydliad fod wedi bod yn ddigon dewr i’w anrhydeddu?
Gwelodd y Lolfa ei ddawn fel bardd, a chyhoeddi ei eiriau yn y llyfr Al, Maen Urdd Camp (darllenwch yn uchel) yn ei gyfres Beirdd Answyddogol. Mae teitl un gerdd, ‘Pererin nid wyf’, yn egluro’r dyn i’r dim. ‘Peidiwch byth ymddiried mewn dyn efo jeans taclus,’ meddai ar y gân ‘Blonegmeddyliau’ (Wyau, 1988) – llinell anfarwol sydd, wrth gwrs, yn dal yn wir.
Gyrrodd Datblygu gŷn i hen goedyn pwdr canu pop Cymraeg yr 1980au a’i hollti’n rhacs. Canai David R Edwards am ‘brobleme bywyd’, am wewyr cariad, a chulni’r gymdeithas Gymraeg, yn gwawdio’r crachach cyn i neb arall wneud. Does yna fawr ddim wedi newid chwaith, ond rydyn ni rywfaint yn ddoethach heddiw, diolch i Datblygu. Byr fu ei gyfnod yn athro ysgol, ond bu’n addysgwr gydol oes. Athronydd yr heolydd cefn oedd David R Edwards, yn dangos inni’r short-cyts difyr i fro ffrwythlonach, a llawer gwyrddach na phoster Plaid Cymru.