Mae “rhywbeth mawr wedi dod i ben” yn dilyn marwolaeth Dave R Edwards, yn ôl Emyr Glyn Williams o Label Recordiau Ankst.

Bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos yn dilyn problemau iechyd. Roedd yn 56 oed.

“Mi fydd y llais a’r geiriau yn parhau i ysbrydoli a rhyfeddu,” meddai’r label mewn datganiad.

Er iddo weithio gyda ‘Dave’ wrth ryddhau cerddoriaeth Datblygu ar hyd y blynyddoedd, fel ffrind y bydd Emyr Glyn Williams yn ei gofio.

“Yn bennaf, mi fydda i’n ei gofio fo fel ffrind achos dros y cyfnod o’r 20 mlynedd diwethaf ’ma mae’r berthynas wedi bod yn un tra wahanol i pan oedd Datblygu ar ei anterth,” meddai wrth golwg360.

“Dim drama”

“Doedd dim gymaint o berfformiadau byw, dim gymaint o sylw neu ddrama yn rhan o’i fywyd,” ychwanegodd Emyr Glyn Williams.

“Felly roedd o’n fwy o ailgyflwyno’r gerddoriaeth i genhedlaeth newydd a hefyd gweithio’n ara’ bach ar greu recordiau newydd efo Pat [Morgan,cyd-aelod Dave yn Datblygu] a’r syniad yma fod o ddim yn rhan o broses oedd yn dilyn amserlen unrhyw un arall.

“Roedd o wedi bod drwy hynna i gyd, wedi bod yng nghanol y ffair a doedd o bendant ddim isio i hynna barhau a fasa fo ddim wedi gallu parhau os oedd o am wella gyda’i iechyd ac yn y blaen.

“Felly byddai’n ei gofio fel ffrind ac, wrth gwrs, cysylltiad gyda gweddill y diwydiant, yr ochr efo’r ffans ac yn y blaen.

“Ac roedden ni’n gweithio gyda’n gilydd i ailgyflwyno gwaith Datblygu, roedd hynna wastad yn bwysig iawn.

“Mewn bywyd mae gen ti lot o ffrindiau, ond be’ roeddet ti’n sylwi efo Dave, roedd o wastad yn holi fi am fy mhlant i, roedd o isio gwybod sut oedd yr ysgol yn eu trin nhw a gwneud yn siŵr mod i’n dweud wrthyn nhw bo’ nhw’n iawn a bod athrawon yn rong!

“Roedd yna rywbeth hen ffasiwn amdano fo yn y sens ei fod o’n llawer mwy parod i glywed beth oedd yn digwydd i chdi ac i dy deulu a ballu yn hytrach na bod o yna yn rhannu ei farn neu ddweud wrtha ti beth oedd yn hambygio fo.

“Yn amlwg roedd ei fywyd o’n llawer tawelach yn ddiweddar ac mi aeth o drwy gyfnod rili anodd yn colli ei rieni a dw i’n gwybod ei fod o’n agos iawn i’w rieni.

“Ond mi faswn i dal yn cael llythyr bob wythnos ac mi fasa ti’n cael ambell i alwad ffôn dros awr o hyd a dim byd mawr yn cael ei drafod jyst ein bod ni’n rhannu amser gyda’n gilydd… dim drama.”

“Rhywbeth mawr wedi dod i ben”

“Mewn ffordd ges i andros o sioc gweld y peth yn brif stori yn y newyddion ac yn y blaen a gweld bod [Mark] Drakeford wedi ’sgwennu neges iddo.

“Ar un lefel, mae o’n teimlo fel bod rhywbeth arall wedi mynd heblaw Dave, dw i’m yn gwybod sut i’w ddisgrifio fo… mae yna rywbeth mawr wedi dod i ben.

“Tra roedd Dave o gwmpas, roedd yna ryw egni yn y bydysawd, ond bellach mae o’n teimlo fel bod yna rywbeth final iawn am yr holl beth.

“A dw i’n meddwl hwyrach bod pobol yn cofio Dave ac yn cofio ysbryd yr oes ac ella bo’ nhw’n gweld hwnna yn Dave… dw i’m yn gwybod.

“Ond mae o’n teimlo fel bod yna rywbeth yn wahanol rŵan, dw i’m yn gwybod be’ mae hynna yn feddwl, mae o jyst yn teimlo fel’na.”

‘Paratoi i greu albym newydd’

Datgelodd Emyr Glyn Williams fod Dave R Edwards yn y broses o baratoi ar gyfer creu albym newydd gyda Pat Morgan.

“Roedd Dave wedi bod mewn hwyliau gwych ac yn paratoi i greu’r albym nesa’ efo Pat.

“Felly mae hyn jyst yn sioc rili.”

Wrth drafod albym diwethaf Datblygu, Cwm Gwagle, a gafodd ei ryddhau’r llynedd ac sydd wedi cyrraedd rhestr fer ‘Albym Gymraeg y Flwyddyn’, dywedodd Emyr Glyn Williams: “Dw i’n meddwl mai diwedd mis Chwefror aethon nhw mewn [i’r stiwdio] – jyst cyn y locdown – a diwrnod a hanner gymerodd o i recordio.

“Mae yna rywbeth neis am hynna, mae Dave yn artist high maintenance, rown ni hi fel’na.

“Mae o a Pat y gwybod be’ maen nhw’n ei wneud, ond mae o’n hyfryd bo’ nhw wedi cael rhywbeth fel’na a’i ryddhau o ar gyfnod pryd oedd cyn lleied yn gallu digwydd.

“Gymerodd o lot o amser i baratoi, ond diwrnod a hanner i recordio, mae o’n dangos bod yna ysbryd yn rhan o’r ffordd maen nhw’n cyflwyno eu cerddoriaeth.

“Ac mae o hefyd yn dangos i bobol fod yna ddim dirywiad wedi bod… dydy problemau iechyd ac ati ddim o reidrwydd yn golygu bo’ chdi’n gorfod bod yn parody o chdi dy hun.

“Mae o hollol out of the blue yn tydi, a dyna lle mae’r tristwch rili.

“Yn amlwg dydi o ddim wedi gadael y bywyd yma heb gyflawni rhywbeth, ond mi oedd yno fwy o fiwsig.”

“Anrhydedd”

Un arall sy’n dweud ei bod hi’n “anrhydedd bod wedi gallu galw Dave yn ffrind” ydi’r DJ ac actor Gareth Potter.

Roedd Gareth Potter yn rhan o’r band ‘Traddodiad Ofnus’ yn yr 1980au, ac mae ganddo atgofion melys gyda Dave a Pat o’r cyfnod hwnnw.

“Roedd o’n gwmni amazing, roedd o’n ddyn caredig, hael, a dw i jyst yn cofio ei gyfeillgarwch e.

“Ar ddiwedd yr 80au, roedden ni’n mynd i aros gyda Dave a Pat yn reit aml a jyst cael laff… roedd hiwmor amazing gyda Dave, hiwmor rili tywyll, ond amazing.

“Roedd y ddau ohonyn nhw yn hosts brilliant.

“Roedden ni’n dod at ddiwedd ein cyfnod gyda Traddodiad Ofnus ac roedd e’n annog ni i fynd a gwneud rhywbeth gwahanol.”

Aeth Gareth Potter a Mark Lugg (hefyd o Traddodiad Ofnus) ymlaen i ffurfio’r band cerddoriaeth ddawns, Tŷ Gwydr, yn 1990.

“Dyfeisio ffordd newydd i ni fel Cymry”

“Roedden ni wrthi gyda Traddodiad Ofnus yn ceisio gwthio ffiniau a beth oedd yn dderbyniol yn y byd roc.

“Roedd pethau’n eithaf boring pan oedden ni’n blant, neu dim ein miwsig ni oedd e… miwsig y genhedlaeth hŷn oedd beth ddigwyddodd yn y 70au.

“Felly roedd yn rhaid i ni wthio yn ei erbyn e, yna dechreuodd casetiau Datblygu ddod mas o Aberteifi, ac roeddwn i wedi cyfarfod â Rhys Mwyn ar ddechrau’r 80au.

“Ond roedd yno rywbeth rili sbeshal am Datblygu, roedd llais Dave yn amazing, roedd y geiriau a’r syniadau y tu ôl i’r caneuon… minimalizm y grŵp, roedd e’n punk heb fod yn punk.

“Nath e ddyfeisio ffordd newydd i ni fel Cymry.

“Dw i’n cofio EP cyntaf Datblygu, roedd yno newid yn syth wedyn, roedd Pat wedi ymuno â’r band ac roedd y cyfuniad yna rhwng Pat a Dave yn dod â’r gorau mas o’i gilydd.

“Ac wedyn yr albym Wyau… dychmyga clywed hwnna am y tro cyntaf.

“Roedden ni gyd yn used i Hergest, i grwpiau gwerin ac ati, ond roedd hwn yn heriol, doedd e ddim amdan pa mor hir yda ni’n gallu gwneud solos gitar, neu pa mor farddonol ydyn ni’n gallu bod.

“Ond eto, roedd o’n creu barddoniaeth newydd ei hun.

“Nath e osod sail i beth ddigwyddodd i gerddoriaeth Gymraeg yn y 90au ac i beth sydd gyda ni heddiw.

“Dave oedd yr un oedd yng nghanol y peth, Dave oedd yr un oedd for real.

“Roedd o’n trïo mynd yn bellach na phawb arall, ond eto mewn ffordd rili celfydd.

“Fo oedd ein cydwybod ni mewn ffordd, ein Harchdderwydd ni… y Kingpin.”

“Roedd pawb yn caru Dave”

“Roedd Dave yn cynrychioli y teimlad ‘na o ankst, y teimlad o ‘ma raid bod mwy i fywyd na be oedd yn mynd ymlaen yng Nghymru ar y pryd’”, medd Gareth Potter.

“Roedd e eisiau creu rhywbeth newydd, ac roedd massive talent gyda fe, roedd e’n gallu crisialu beth oedd yn ein meddylie ni, sut oedden ni’n teimlo, ac wedyn doedden ni ddim yn teimlo mor unig.

“Roedd pawb yn caru Dave. Roedd e’n gawr o ddyn, absolute cawr o ddyn.

“A dw i’n rili ypset, rili ypset, dw i’n gutted na fyddai’n cael ei weld e eto.

“Ond pob tro fyddai’n clywed ei lais e, byddai’n gwenu.”

“Dod â drych i ddiwylliant Cymreig”

Cafodd cerddoriaeth Datblygu gymaint o ddylanwad ar Gruffydd Wyn Owen, fe wnaeth enwi ei label gerddoriaeth Libertino ar ôl trydydd albym y band o’r un enw.

Mae’r albym honno, gafodd ei ryddhau yn 1993, ynghyd â Wyau (1988), a Pyst (1990) yn cael eu hystyried ymysg y gorau, a’r pwysicaf yn hanes cerddoriaeth Gymreig.

“Dave oedd un o feirdd modern cyntaf Cymru, nath e lusgo diwylliant Cymru kicking and screaming into the 21st Century.

“Pan ti’n gwrando ar gerddoriaeth Datblygu, hyd yn oed y stwff cynnar o ’84, mae o’n swnio mor fodern.

“Dyw e ddim wedi heneiddio, mae o’n gerddoriaeth hollol ddi-ofn.

“Beth oedd yn wych am Dave oedd bod popeth yn y gerddoriaeth… mae rhamant yna, mae e’n gallu bod yn eithaf combative ac aggressive ac mae’n sicr yn ddi flewyn ar dafod i’r pwynt lle ti’n teimlo’n anghyfforddus.

“Mae o’n teimlo weithiau bod o’n siarad amdanat ti. Ti’n gwrando weithiau ac yn sydyn yn meddwl, ‘yffach fi yw hwnna’.

“Nath e ddod a drych i ddiwylliant Cymreig a hynny o bosib am y tro cyntaf.”

“Roedd gen i ofn”

Roedd gan Gruffydd Wyn Owen “ofn” y tro cyntaf iddo glywed Datblygu yn ddeuddeg oed mewn clwb ieuenctid, ond doedd hynny ddim yn beth drwg, meddai.

“Dw i’n cofio bod mewn clwb ieuenctid yr Urdd yn ddeuddeg mlwydd oed ac mi wnaeth rhywun roi tâp Pyst ymlaen, ac roedd gen i ofn!

“Dw i’n cofio meddwl, ‘sai’n siŵr beth yw hwn’, roedd gen ti’r drum machine, a llais Dave ac roeddwn i’n meddwl ‘beth sy’n mynd ymlaen’ ond roedd o’n grêt.

“Ac wedyn dw i’n cofio mynd â fe adre’r noson yna a gwneud copi ohono fe a dal i deimlo, ‘Iawn, dw i ddim yn deall hwn eto, ond mae o’n swnio yn grêt’.

“Dw i’n credu mai beth wnaeth Dave oedd gwneud i lot o bobol deimlo bod lle iddyn nhw fod yn rhan o ddiwylliant Cymraeg er bo’ nhw’n teimlo bo’ nhw ddim yn rhan o bethe.

“Nath e roi cartref i gymaint o bobol a ti’n gallu gweld hynna mewn bandiau sydd wedi dod ar ôl hynny.

“I fi, nath e neud i fi deimlo fel mod i’n gallu bod pwy rydw i eisiau bod a dal gallu byw fy mywyd drwy’r Gymraeg er mod i ddim yn rhan o rai elfennau mwy ceidwadol o’n cenedl ni.

“Dw i’m yn credu y cawn fand tebyg byth eto.”

*

  • Gallwch ddarllen cyfweliad Datblygu gyda Golwg, ar adeg rhyddhau’r albym ‘Cwm Gwagle’ y llynedd, heb wal dalu, isod.

Datblygu yn dal i gael sbort

Barry Thomas

Mae’r ddeuawd yn ôl gydag albwm newydd sy’n llawn geiriau doniol a chrafog, a cherddoriaeth amrywiol ac arbrofol

Teyrngedau i Dave R Edwards sydd wedi marw’n 56 oed

Roedd prif leisydd Datblygu yn “bersonoliaeth enfawr, hael, arth o ddyn; bydd ei ddylanwad yn byw ymlaen”