Mae grŵp o Aelodau o’r Senedd yn cynnig fod y Senedd yn nodi fod angen amserlen i gyd-fynd â’u haddewid i wella’r gwasanaethau.

Bydd dadl drawsbleidiol yn cael ei chynnal yn y Senedd brynhawn heddiw, gydag aelodau yn disgwyl clywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ôl yr Aelodau o’r Senedd, sy’n cynnwys aelodau o’r Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr, a’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae angen sicrhau fod gwasanaethau yn ateb gofynion cymunedau, ac yn effeithio llai ar newid hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo deddf a fyddai’n dadwneud diwygiadau a gafodd eu cyflwyno yn yr 80au i breifateiddio darpariaeth bysiau tu allan i Lundain, gan ddileu gallu awdurdodau lleol i redeg eu gwasanaethau.

“Nawr fod gennym ni’r pwerau yng Nghymru i wneud hynny, gallwn ni ddadwneud y dadreoleiddio dinistriol i fysiau a ddaeth i rym yn y 1990au, a throi rheolaeth dros fysys a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig yn nwylo’r defnyddwyr a chynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd,” meddai Aelod o’r Senedd Llafur, Huw Irranca-Davies.

“Os ydy hynny’n ddigon da i Lundain a Lerpwl, yna mae e’n ddigon da i Ben-y-bont ar Ogwr a Chymru hefyd!”

“Profi uchelgais”

Bydd Huw Irranca-Davies, sy’n cynrychioli etholaeth Ogwr yn y Senedd, yn cyflwyno’r cynnig brynhawn heddiw (23 Mehefin).

“Mae yna gymaint o bobol yng Nghymru sydd gan ddim mynediad at geir eu hunain na’r rheilffyrdd,” meddai Huw Irranca-Davies.

“Maen nhw’n dibynnu ar fysiau a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith, at y meddyg, i weld ffrindiau a theulu, neu fynd i’r siopau.

“Ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r broblem gyda gwasanaethau anaddas mewn nifer o gymunedau gwledig wedi gwaethygu yn sgil effaith y pandemig.

“Felly yn y ddadl hon rydyn ni eisiau profi uchelgais y llywodraeth ar gyfer ein gwasanaeth bysiau.”

Yn ôl Huw Irranca-Davies, mae’r grŵp o Aelodau o’r Senedd hefyd yn awyddus i roi gwell rheolaeth dros deithiau lleol i bobol leol, gwneud i’r adnoddau anferth sy’n cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau fynd ymhellach, a gostwng cost tocynnau.

Maen nhw’n galw am well cydweithio rhwng bysiau sy’n rhedeg ar amserlen a bysiau hyblyg, bysiau ‘ar alw’ a thrafnidiaeth gymunedol.

“Newid ffordd o deithio”

“Rydym wedi amlinellu ffordd newydd o feddwl sy’n sicrhau pobl a’r newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaethau ac yn ganolog i’n system drafnidiaeth,” meddai Llywodraeth Cymru ynghylch y strategaeth Llwybr Newydd, y strategaeth drafnidiaeth newydd.

“Dyma rywbeth mae’n rhaid i ni ei wneud. Yr argyfwng hinsawdd yw un o broblemau diffiniol mwyaf ein hoes. Os ydym am ddiogelu bywydau ein plant, mae angen inni sicrhau carbon sero-net erbyn 2050.

“Ac er mwyn gwneud hynny, mae angen inni newid y ffordd rydym yn teithio. Mae angen inni leihau nifer y ceir ar ein ffyrdd, a sicrhau bod rhagor o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded neu’n beicio.”

Yn ystod y ddadl brynhawn heddiw, mi fydd y grŵp yn galw ma fwy fanylion ynghylch y strategaeth Llwybr Newydd hefyd.