Fe wnaeth cefnogwyr gymeradwyo naw o ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia wrth iddyn nhw adael y carchar heddiw (23 Mehefin) ar ôl cael pardwn gan lywodraeth Sbaen.
Roedd y dynion wedi’u dedfrydu i gyfnodau hir yn y carchar am eu rhan yn trefnu refferendwm ar annibyniaeth i Gatalwnia bedair blynedd yn ôl.
Cafodd y naw bardwn gan Gabinet Sbaen ddoe (22 Mehefin), yn y gobaith o ddechrau’r hyn mae Prif Weinidog Sbaen yn ei alw’n “gymod mawr ei angen”.
Er hynny, roedd y gefnogaeth leol tuag at y dynion yn awgrymu na fydden nhw’n anghofio’r mater yn fuan.
“Atgyfnerthu ein syniadau”
Toc wedi hanner dydd, fe wnaeth cyn-Ddirprwy Weinidog Catalwnia Oriol Junqueras, pum cyd-aelod o’r Cabinet, cyn-lefarydd eu Senedd, a dau ymgyrchydd annibyniaeth gerdded allan o’r carchar.
Roedden nhw wedi treulio tair blynedd a hanner, neu bedair blynedd, dan glo, ac roedd dwsinau o gefnogwyr a pherthnasau yn disgwyl amdanyn nhw yn y glaw yn cymeradwyo a chlapio.
Gan ddal baner fach yn dweud “Rhyddid Catalwnia” yn Saesneg a fflag Catalwnia, fe wnaeth y grŵp gyfarch eu cefnogwyr mewn Catalaneg.
“Rydyn ni’n ymwybodol heddiw, wrth gael ein rhyddhau o’r carchar, fod dim byd wedi gorffen” meddai Oriol Junqueras mewn araith.
“Dyw carchar ddim yn ein dychryn ni, mae e’n atgyfnerthu ein syniadau.”
Aeth Gweinidog Rhanbarthol Catalwnia, a llefarydd Senedd Catalwnia at y carchar ar gyfer gweld yr ymgyrchwyr yn gadael hefyd.
Roedd y pardwn gan Gabinet Sbaen yn golygu nad oedd rhaid i’r dynion dreulio gweddill eu dedfrydau yn y carchar, a oedd yn amrywio o naw i dair-mlynedd-ar-ddeg.
Ni fydden nhw’n cael dal swydd gyhoeddus nes diwedd eu dedfrydau, a gallen nhw fynd yn ôl i’r carchar petaen nhw’n torri cyfraith Sbaen eto, meddai’r amodau.
“Dewr, adferol, ac o blaid cydfodoli”
Er bod poliau piniwn yn awgrymu fod nifer o bobol yn Sbaen yn erbyn y pardynau, dywedodd Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez, eu bod nhw’n boblogaidd yng Nghatalwnia, a bod rhyddhau’r criw yn “ddechrau newydd” i’r berthynas rhwng yr awdurdodau.
Mae arweinydd yr wrthblaid yn Sbaen, y Ceidwadwr Pablo Casado, wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo am roi’r pardynau heb drafod gyda gwleidyddion.
“Rydych chi’n cymeradwyo diwrnod anffodus yn hanes democrataidd Sbaen, rydych chi’n taflu tynged y wlad i ddwylo ymwahanwyr,” meddai Pablo Casado, gan gyhuddo Pedro Sanchez o ddweud celwydd gan ei fod e wedi addo peidio goddef ymwahanwyr pan fyddai’n dod i rym.
Wrth ymateb, dywedodd Pedro Sanchez fod ei benderfyniad yn “ddewr, adferol, ac o blaid cydfodoli”.
Mae gwleidyddion sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia wedi galw ar Lywodraeth Sbaen i gymryd cam pellach gan eu hannog nhw i ddilyn “llwybr yr Alban” – gan gyfeirio at refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014 a gafodd ei ganiatáu gan San Steffan.