Bydd papur newydd dros ddemocratiaeth yn Hong Kong yn cau erbyn y penwythnos wedi i’r heddlu arestio pump o’r golygyddion a’r prif weithredwyr, a rhewi £1.65 miliwn o asedau’n ymwneud â’r papur.
Dywedodd Bwrdd Cyfarwyddwyr Apple Daily heddiw (23 Mehefin) y bydd rhifynnau papur a rhifynnau ar-lein y cylchgrawn yn dod i ben ddydd Sadwrn yn sgil “y sefyllfa yn Hong Kong”.
Hyd yn hyn, mae mwy na 100 o bobol wedi cael eu harestio dan gyfraith diogelwch cenedlaethol newydd Hong Kong, gan gynnwys ymgyrchwyr dros ddemocratiaeth amlwg a chyhoeddwr Apple Daily, Jimmy Lai.
Yn ol yr awdurdodau mae’r papur wedi torri rheolau diogelwch cenedlaethol drwy feirniadu’r Llywodraeth.
Fe wnaeth yr heddlu gyfeirio at 30 o erthyglau yn y papur newydd fel tystiolaeth yn ymwneud â chynllwyn honedig i osod sancsiynau tramor ar Hong Kong a Tsieina.
Rhewi’r asedau sydd ynghlwm â’r papur newydd sydd wedi arwain at ei ddiwedd.
Roedd Bwrdd y Cyfarwyddwyr wedi ysgrifennu at swyddfa ddiogelwch Hong Kong yn gynharach yr wythnos hon er mwyn gofyn iddyn nhw ryddhau peth o’u cyllid fel eu bod nhw’n gallu talu cyflogau.
Mae ymgyrch yr heddlu yn erbyn Apple Daily wedi ennyn beirniadaeth gan y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, a’r Undeb Ewropeaidd, a ddywedodd fod awdurdodau Hong Kong a Tsieina’n targedu’r rhyddid a ganiatawyd i’r ddinas pan gafodd y cyn-drefedigaeth Brydeinig ei rhoi’n ôl dan reolaeth Beijing yn 1997.
Mae swyddogion yn Tsieina a Hong Kong wedi dweud fod rhaid i’r wasg gadw at y gyfraith, ac na ellir defnyddio rhyddid y wasg er mwyn “gwarchod” gweithgareddau anghyfreithlon.