Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud a delio cyffuriau wedi cyrch gan Heddlu Dyfed Powys yn y Trallwng ddydd Llun (21 Mehefin).

Roedd yr heddlu wedi cynnal cyrch ym maes carafanau Leighton Arches lle cafodd tri pherson eu harestio.

Roedd hyd at 80 o swyddogion yr heddlu yn rhan o’r digwyddiad. Cafodd cyffuriau, y credir sy’n rhai Dosbarth A a B eu canfod yn ystod y cyrch.

Cafodd pedwerydd dyn ei arestio ddydd Mawrth (22 Mehefin) ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cocên, mewn cysylltiad â’r ymchwiliad. Mae’r dyn 24 oed yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae Michael Power, 19, a John Paul Power, 25, wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis, tro bod Patrick David Stokes, 32, wedi’i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Lewis: “Roedd hyn yn ymgyrch sylweddol fel rhan o’n hymrwymiad i gael gwared a’r risg sy’n cael ei achosi gan sylweddau anghyfreithlon yn ein cymunedau.

“Mae ein hymchwiliadau yn parhau.”

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am weithgaredd troseddol yn ymwneud a chyffuriau gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.