Fe fydd dyn 18 oed yn mynd gerbron llys heddiw (Dydd Mercher, 23 Mehefin) ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn digwyddiad yn Aberhonddu dros y penwythnos.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi derbyn adroddiadau am ymosodiad yng Ngwesty’r George yn y dref ddydd Sul, 20 Mehefin.

Clywodd yr heddlu bod dyn 18 oed wedi cael ei daro ar ei ben gyda photel gan achosi “niwed sylweddol”. Bu’n rhaid I’r dyn gael llawdriniaeth I dynnu darnau o wybr o’I wyneb.

Cafodd Dimitri Davies, 18, sydd ddim a chyfeiriad sefydlog, ei arestio’r diwrnod canlynol. Cafodd ei gyhuddo’n ddiweddarach o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys Ynadon Merthyr heddiw.