Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod galwadau i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan ddinasyddion Ewropeaidd sydd eisiau aros yn y Deyrnas Unedig wedi Brexit.

Mae’r gweinidog mewnfudo Kevin Foster wedi ei gwneud yn glir na fydd Llywodraeth y DU yn ymestyn y dyddiau cau o 30 Mehefin ar gyfer y rhai sydd eisiau gwneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Dywedodd bod y cynllun wedi bod ar agor ar gyfer ceisiadau ers 2019, gyda phobl o’r Undeb Ewropeaidd wedi cael “amser i wneud cais”. Ychwanegodd y byddai ymestyn y dyddiad cau yn “creu rhagor o ansicrwydd”.

Mae mwy na 5.6 miliwn o geisiadau wedi cael eu gwneud hyd yma o dan y cynllun.

“Pryder sylweddol”

Daeth ei sylwadau ar ôl i weinidog Ewrop yn Llywodraeth yr Alban, Jenny Gilruth, ddweud bod yna “bryder sylweddol” am nifer y ceisiadau oedd eto heb eu cwblhau.

Yn ôl Jenny Gilruth mae “cannoedd ar filoedd o geisiadau.. eto i gael eu prosesu gan y Swyddfa Gartref.”

“Nid yw’n deg bod dinasyddion yr UE sy’n methu gwneud cais erbyn y dyddiad cau yn dod yn breswylwyr anghyfreithlon yn y DU ar unwaith,” meddai.

“Fe ddylai Llywodraeth y DU wneud y penderfyniad i ymestyn y dyddiad cau, clirio’r ôl-groniad – ac adnewyddu’r cynllun.”

Mae Kevin Foster wedi annog pobl i beidio oedi a gwneud cais cyn gynted â phosib.

Ychwanegodd y byddai pobl yn gallu gwneud ceisiadau hwyr i’r cynllun y tu hwnt i’r dyddiad cau o 30 Mehefin cyhyd a bod “rheswm digonol” dros wneud hynny.