Mae’r ymgyrch drosodd felly, ar ôl y golled drom i Ddenmarc. Roedd hi’n ffordd annifyr ac annheg i orffen twrnament llwyddiannus i Gymru, ond doedd yna ddim rheswm i gwyno. Wel, doedd yna ddim rheswm i gwyno os wyt ti’n anghofio am yr holl deithio, y gemau ‘oddi cartref’, y dyfarnu rhyfedd, a’r diffyg cefnogwyr.  Ond o ystyried y ffactorau ymarferol oedd yn ein herbyn ni, mi’r oedd yn dwrnament llwyddiannus.