Mae Geraint Thomas wedi bod mewn gwrthdrawiad yn ras feics y Tour de France.

Fe ddigwyddodd yn ystod y trydydd cymal rhwng An Oriant (Lorient) a Pondi yn Llydaw.

Mae’n ymddangos ei fod e wedi llithro mewn tywydd garw ac wedi cwympo i’r llawr cyn cael ei daro gan Tony Martin o dîm Jumbo-Visma.

Cafodd y Cymro archwiliad meddygol cyn mynd yn ôl ar ei feic.

Ond mae e wedi colli mwy na thair munud yn sgil y digwyddiad.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa mor ddifrifol yw’r anaf, ond roedd hi’n ymddangos fel pe bai e mewn cryn boen.