Mae erthygl yng nghylchgrawn pêl-droed hynaf yr Iseldiroedd – Voetbal International – yn dweud nad yw Cymru yn “wlad go iawn” a bod chwaraewyr ein tîm cenedlaethol yn “cicio’r bêl fel hobi”.

Cafodd yr erthygl ei hysgrifennu ar ôl i’r Iseldiroedd gael eu trechu o 2-0 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec neithiwr (nos Sul, Mehefin 27), gan ddod â’u hymgyrch yn Ewro 2020 i ben.

Roedd rhai yn credu y gallai’r tîm fod wedi mynd yn bell yn y twrnament, ar ôl iddyn nhw ennill pob un o’u tair gêm grŵp.

Ond yn ôl awdur yr erthygl, Peter Wekking, mae’r tîm “yr un mor wael â Chymru”.

“O’r foment ddechreuodd y gystadleuaeth mewn difri gyda’r ail rownd, roedd twrnament tîm cenedlaethol yr Iseldiroedd yn dod i ben,” meddai yn yr erthygl.

“Cawson nhw eu trechu yn rownd yr 16 olaf, yn union fel y Cymry, sy’n cicio’r bêl fel hobi.

“Dyna gyflwr presennol y tîm. Yr un mor wael â Chymru. A dyw honno ddim hyd yn oed yn wlad go iawn.”

Cymru v Yr Iseldiroedd

Mae’n werth nodi pa mor agos oedd hi y tro diwethaf i Gymru herio’r Iseldiroedd yn 2015.

Colli o 3-2 oedd hanes Cymru – oedd yn chwarae heb Gareth Bale ac Aaron Ramsey ar y noson – gyda’r Iseldiroedd yn sgorio’r gôl fuddugol gyda naw munud yn weddill.

A wnaeth yr Iseldiroedd ddim cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Ewro 2016, tra bod Cymru wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol – rhywbeth nad yw’r Iseldiroedd wedi ei wneud yn y gystadleuaeth ers 2004.

Aaron Ramsey eisiau aros gyda Juventus

Yn y cyfamser, mae Sky Sports yn adrodd bod Aaron Ramsey yn awyddus i aros yn yr Eidal gyda Juventus.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau ddydd Gwener (Mehefin 25) ei fod yn ceisio terfynu ei gytundeb â’r clwb.

Mae ganddo ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb, ac yn ôl Sky Sports, mae’n hapus i weld Max Allegri – y dyn oedd am ei arwyddo i’r clwb yn y lle cyntaf – yn rheolwr.

Mae’n debyg y byddai Max Allegri yn fwy tebygol o chwarae Ramsey fel rhif wyth, tra bod Maurizio Sarri ac Andrea Pirlo wedi ei chwarae mewn amryw o safleoedd.

Chwaraeodd e 22 o weithiau yn Serie A y tymor diwethaf, gan sgorio ddwywaith a chreu pum gôl arall.

Chwaraeodd e saith gwaith yng Nghynghrair y Pencampwyr, gan ddod â’i gyfanswm i 65 ymddangosiad ers symud i ddinas Torino.