Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi’r Llewod, wedi canmol yr asgellwr Josh Adams ar ôl iddo fe sgorio pedwar cais yn y fuddugoliaeth o 56-14 dros y Sigma Lions yn Johannesburg ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 3).

Daeth y pedwar cais yn yr ail hanner wrth i’r Llewod ddechrau’r daith i Dde Affrica gyda buddugoliaeth swmpus ac wyth cais.

Mae Adams, 26, bellach wedi sgorio pum cais mewn dwy gêm yn dilyn ei gais yn erbyn Japan yng Nghaeredin wythnos yn ôl.

“Mae Josh yn sicr yn gwybod ble mae’r llinell gais, ac allwch chi ddim anwybyddu’r hyn mae e wedi’i gyflawni fel chwaraewr,” meddai Gatland.

“Fe oedd prif sgoriwr ceisiau Cwpan y Byd 2019.

“Chwaraeodd e i Gaerwrangon pan oedden nhw ar waelod y Premiership ond fe oedd prif sgoriwr ceisiau’r Premiership serch hynny.

“Mae hynny’n adrodd cyfrolau.

“O ran ei amseru gyda’r bêl tu mewn ar gyfer y cais cyntaf, fe wnaeth e hynny sawl gwaith yn ystod Cwpan y Byd.

“Mae ganddo fe amseru gwych wrth fwrw’r llinell.

“Mae cael pedwar cais yn eithaf arbennig iddo fe.”

Cymry blaenllaw eraill

Roedd nifer o chwaraewyr eraill Cymru’n flaenllaw yn y fuddugoliaeth hefyd, gyda Louis Rees-Zammit hefyd yn croesi am gais, yn ogystal â’r eilydd o fewnwr Gareth Davies.

Daw hyn ar ôl i’r ddau Gymro, y capten Alun Wyn Jones a’r blaenasgellwr Justin Tipuric orfod gadael y daith oherwydd anafiadau.

Bydd y rheiny oedd wedi cyfrannu’n sicr yn gwthio am le yn y tîm prawf, ond mae Warren Gatland yn cydnabod fod cryn dipyn o gystadleuaeth am lefydd yn y gyfres.

“Mae’r gystadleuaeth yn enfawr,” meddai.

“Dydyn ni ddim wir yn ceisio darogan sut olwg fydd ar y tîm prawf.

“Rydyn ni’n gadael i hynny fynd rhagddo a gweld sut mae’r chwaraewyr yn parhau i berfformio a chwarae, sut mae’r cyfuniadau’n gweithio.

“Yna byddwn ni’n dechrau edrych ar ein hopsiynau.

“Dydyn ni’n sicr ddim eisiau cyfyngu unrhyw un.

“Rydyn ni’n cadw meddwl agored ynghylch sut rydyn ni’n chwarae a sut rydyn ni’n parhau i wella.”