Mae Leigh Halfpenny wedi cael anaf i’w goes sy’n ymddangos yn ddifrifol ar y diwrnod enillodd y cefnwr ei ganfed cap rhyngwladol.

Fe wnaeth Cymru guro Canada yn gyfforddus o 68-12, wrth iddyn nhw sgorio deg o geisiau o gymharu â dau yr ymwelwyr.

Yn sgil absenoldeb rhai o’r hoelion wyth sydd gyda’r Llewod yn Ne Affrica, roedd sawl chwaraewr di-brofiad yn nhîm Cymru.

Ond roedden nhw’n rhy gryf i dîm gwan Canada, serch hynny.

Manylion y gêm

Roedd ychydig dros 6,000 o gefnogwyr yn cael bod mewn gêm rygbi yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers mis Chwefror y llynedd, ac fe gawson nhw wledd o geisiau.

Parodd Halfpenny lai na dwy funud cyn cael anaf i’w ben-glin wrth lithro ar lawr, ac fe gafodd e gryn gymeradwyaeth gan y dorf wrth iddo fe adael y cae ar wastad ei gefn.

Daeth ceisiau Cymru yn yr hanner cyntaf gan Tomos Williams, Jonah Holmes, Nicky Smith, Elliot Dee, James Botham a Will Rowlands.

Sgoriodd y mewnwr Williams ei ail gais ar ddechrau’r ail hanner, ac roedd dau gais hefyd i’r chwaraewr rheng ôl yn ei gêm gyntaf dros ei wlad, gyda Holmes hefyd yn sgorio ail gais.

Ciciodd Callum Sheedy saith trosiad gyda Ben Thomas, yn ei gêm gyntaf, yn ychwanegu trosiadau at ail geisiau Basham a Holmes.

Ond Canda aeth ar y blaen ar ddechrau’r gêm drwy Kainoa Lloyd wrth i’r tîm chwarae am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2019.

Sgoriodd y cefnwr Cooper Coats gais cysur yn niwedd y gêm gyda’r trosiad oddi ar droed Peter Nelson, ond roedd yn brynhawn siomedig i’r tri Chymro sydd yn arwain y tîm – Kingsley Jones, Rob Howley a Byron Hayward.