Mae holl grysau newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi’u gwerthu o fewn deuddydd, ac mae siop y clwb yn aros i roi gwybod i gefnogwyr a fydd rhagor o stoc yn cyrraedd.

Daw hyn ar ôl i’r clwb gyhoeddi mai TikTok yw eu noddwyr newydd ar gyfer tymor 2021-22.

Aeth y crysau cartref ar werth ddydd Iau (Gorffennaf 1) yn y siop ac ar y we, ac mae mwy na 2,400 wedi’u gwerthu eisoes, a hynny ar ôl i bobol fod yn ciwio ar y stryd am fwy nag awr i gael mynd i mewn i’r siop.

Ac mae’r clwb bellach yn dweud nad oes ganddyn nhw ragor o stoc am y tro, ond y byddan nhw’n rhoi gwybod i’r cefnogwyr os daw rhagor ar gael.

Bydd y siop ar agor rhwng 10yb-4yp dros y penwythnos i gefnogwyr gael prynu nwyddau eraill, gan gynnwys hen stoc o’r tymor diwethaf.

TikTok

Mae TikTok – sy’n blatfform adloniant digidol rhyngwladol – wedi arwyddo cytundeb er mwyn noddi Clwb Pêl-Droed Wrecsam am y ddau dymor nesaf.

Yn y cyfamser, bydd Ifor Williams Trailers yn parhau fel prif noddwr lleol Wrecsam ar gyfer y ddau dymor nesaf.

Bydd enw a logo TikTok yn ymddangos ar grysau newydd y clwb, a bydd y tîm yn lansio cyfrif TikTok swyddogol.

Mae’r bartneriaeth rhwng y Clwb, y perchnogion Rob McElhenney a Ryan Reynolds, a TikTok “yn addo i fod yn un o’r rhai mwyaf arloesol yn y byd pêl-droed a maes adloniant” medd y clwb mewn datganiad.

“Rydyn ni wedi’n syfrdanu gan y syniadau oedd gan TikTok at gyfer eu partneriaeth gyda’r Clwb,” meddai Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam.

“Mae’r cyfle i gael mynediad at eu cyrhaeddiad cymdeithasol llawn yn creu cyfle i adeiladu cymuned a fydd nifer yn genfigennus ohono.

“Bydd ein cyfrif TikTok, a fydd yn cael ei lansio’n fuan, yn cynnwys pawb sydd ynghlwm â’r Clwb, gan gynnwys Rob a Ryan.

“Mae cael TikTok ar flaen ein crysau yn gyflawniad gwych, a dw i’n siŵr y bydd e’n boblogaidd ymysg ein cefnogwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n defnyddio TikTok.”

TikTok yn noddi Clwb Pêl-droed Wrecsam am y ddau dymor nesaf

Bydd enw a logo TikTok yn ymddangos ar grysau newydd y clwb, a bydd y tîm yn lansio cyfrif TikTok swyddogol