Fe fydd tîm rygbi’r Llewod yn herio’r Sigma Lions yn Johannesburg yng ngêm gynta’r daith i Dde Affrica heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 3).

Cyfres brawf yn erbyn pencampwyr y byd fydd penllanw’r daith.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r ddau dîm sy’n rhannu enw herio’i gilydd, er i’r Golden Lions, tîm rhanbarthol Johannesburg, golli o 74-10 ar y daith ddiwethaf yn 2009, gyda Jamie Roberts yn sgorio dau gais.

O blith y chwaraewyr ddechreuodd y gêm baratoadol yn erbyn Japan cyn i’r Llewod adael am Dde Affrica, dim ond yr asgellwr Josh Adams sy’n cadw ei le yn y tîm.

Mae Stuart Hogg yn gapten am y tro cyntaf, tra bod Louis Rees-Zammit, Jonny Hill, Hamish Watson a Chris Harris yn chwarae am y tro cyntaf.

Bydd Finn Russell ac Owen Farrell yn faswr a chanolwr gyda’i gilydd am y tro cyntaf.

Ymhlith yr enwau newydd ar y fainc mae Luke Cowan-Dickie, Sam Simmonds, Zander Fagerson a Gareth Davies.

Y timau

Y Llewod: Stuart Hogg (capten), Louis Rees-Zammit, Chris Harris, Owen Farrell, Josh Adams, Finn Russell, Ali Price; Wyn Jones, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, Jonny Hill, Courtney Lawes, Hamish Watson, Taulupe Faletau

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Zander Fagerson, Iain Henderson, Sam Simmonds, Gareth Davies, Bundee Aki, Elliot Daly

Sigma Lions: EW Viljoen, Jamba Ulengo, Manuel Rass, Burger Odendaal, Rabz Maxwane, Jordan Hendrikse, Dillon Smit; Nathan McBeth, PJ Botha, Ruan Dreyer, Ruben Schoeman, Reinhard Nothnagel, Sbusiso Sangweni, Vincent Tshituka, Francke Horn (capten)

Eilyddion: Jaco Visagie, Sti Sithole, Carlu Sadie, Ruhan Straeuli, Emmanuel Tshituka, Morne van den Berg, Fred Zeilinga, Dan Kriel

Her gyntaf y Llewod yn Ne Affrica – pwy yw’r Sigma Lions?

Mae taith carfan Warren Gatland yn cychwyn go-iawn yfory yn Johannesburg, ac mae pedwar Cymro yn y tîm

Louis Rees-Zammit i chwarae i’r Llewod am y tro cyntaf

Mae 14 newid o’r fuddugoliaeth yn erbyn Siapan ddydd Sadwrn (Gorffennaf 26)