Mae Llewod Prydain ac Iwerddon yn cychwyn eu taith o Dde Affrica gyda gêm yn erbyn enw’r Sigma Lions yn Johannesburg ddydd Sadwrn (3 Gorffennaf).
Bydd yna bedwar Cymro yn nhîm y Llewod – yr asgellwyr Josh Adams a Louis Rees-Zammit, y prop Wyn Jones a’r wythwr Talupe Faletau.
Bydd modd gwylio’r gêm ar Sky Sports, gyda’r gic gyntaf am bump o’r gloch y prynhawn.
Mae Warren Gatland, Prif Hyfforddwr y Llewod, wedi newid 14 newid o’r tîm drechodd Siapan 28-10 ddydd Sadwrn diwethaf (26 Mehefin).
Yma, mae golwg360 yn cymryd cipolwg ar wrthwynebwyr nesaf y Llewod, y Sigma Lions.
Llewod v Llewod
Roedd y Sigma Lions – ynghyd â’r Stormers, Sharks a’r Bulls – gynt yn rhan o gemau ‘Super Rugby’ gyda thimau o Awstralia a Seland Newydd, gan gyrraedd tair rownd derfynol yn olynol rhwng 2016 a 2018, gan golli tair gwaith.
Roedd y [Sigma] Lions, a fydd yn cael eu hadnabod fel Sigma Lions am y tro cyntaf y penwythnos hwn yn dilyn cyhoeddi cytundeb nawdd newydd, yn ychwanegiad hwyr i amserlen taith Llewod Prydain ac Iwerddon.
Gemau diweddar
Mae’n debyg mai’r Sigma Lions yw’r gwannaf o’r timau y bydd carfan Warren Gatland yn eu hwynebu dros yr wythnosau nesaf ar ôl iddyn nhw orffen ar waelod y pentwr yn adran De Affrica o’r Gwpan Enfys.
Enillon nhw un gêm allan o bump – er, i fod yn deg, daeth eu hunig fuddugoliaeth yn erbyn y Bulls, a wnaeth orffen ar frig y tabl.
Prif Hyfforddwr
Ymunodd y Prif Hyfforddwr Ivan Van Rooyen gydag Undeb Rygbi’r Golden Lions yn 2009, gan weithio gyda’r timau ieuenctid a thîm Cwpan Vodacom tan 2011.
Daeth yn bennaeth cryfder a chyflyru yn 2012 ac, yn dilyn cwpl o dymhorau llwyddiannus fel prif hyfforddwr tîm y Currie Cup, cafodd ei ddyrchafu i’w rôl bresennol yn 2019.
Wrth siarad cyn y gêm dywedodd Van Rooyen: “Mae hwn yn gyfle mor fawr i’n chwaraewr ni.
“Mae grŵp mor fach o ddynion a fydd yn cael cyfle unwaith-mewn-oes i chwarae yn erbyn chwaraewyr o’r safon yma, a gobeithio eu bod am dreulio eiliad i’w gymryd i mewn a mwynhau’r foment.”
Chwaraewyr allweddol
Dim ond un chwaraewr y mae’r Sigma Lions wedi’i gyfrannu i garfan y Springboks ar gyfer y gyfres brawf, sef Wandisile Simelane.
Cafodd y maswr Jordan Hendrikse, 20, ymgyrch dda yn ystod y Gwpan Enfys, tra bod y blaenasgellwr 22 oed Vincent Tshituka yn cael ei ystyried fel un allai chwarae i Dde Affrica yn y dyfodol.
Mae’r ddau yma yn dechrau yn erbyn Llewod Prydain ac Iwerddon ddydd Sadwrn.
Tîm Llewod Prydain ac Iwerddon:
Stuart Hogg; Louis Rees-Zammit, Christopher Harris, Owen Farrell, Josh Adams; Finn Russell, Ali Price; Wyn Jones, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, Jonny Hill, Courtney Lawes, Hamish Watson, Talupe Faletau.
Eilyddion:
Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Zander Fagerson, Iain Henderson, Sam Simmonds, Gareth Davies, Bundee Aki, Elliot Daly