Cwmni Castore fydd yn gwneud cit newydd Newcastle United, ac mae’r cyhoeddiad yn un amserol o gofio bod un o gyd-berchnogion y cwmni yn serenu yn Wimbledon ar hyn o bryd.
Mae Syr Andy Murray, cyn-bencampwr Wimbledon, yn un o berchnogion Castore sy’n dod yn fwyfwy amlwg mewn marchnad gystadleuol iawn, gyda chreu citiau pêl-droed prif dimau Uwch Gynghrair Lloegr yn fusnes llewyrchus dros ben.
Mae cytundeb Castore gyda Newcastle yn dilyn cytundebau tebyg y cwmni gwneud citiau gyda phêl-droed gyda Glasgow Rangers a Wolverhampton Wonderers.
Fe wnaeth y cwmni dillad chwaraeon arwyddo cytundeb gyda thîm rygbi Saracens fis diwethaf hefyd.
Bydd Castore yn cyflenwi dyluniadau ar gyfer citiau gemau cartref a gemau oddi cartref Newcastle, yn ogystal â’u dillad ymarfer.
“Arwydd o ddechrau newydd”
“Mae gan Newcastle United nifer farw o gefnogwyr sy’n andros o angerddol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at roi rhywbeth i’r Toon Army allu cyffroi yn ei gylch y tymor nesaf,” meddai Tom Beahon, cyd-sylfaenydd Castore.
“Rydyn ni’n credu fod y bartneriaeth yn arwydd o ddechrau newydd i’r clwb… i’r clwb eiconig hwn, yn ogystal â chrys newydd ar gyfer y tymor newydd.”
Cafodd Castore ei lansio yn 2015 gan Tom Beahon a’i frawd, ac mae Andy Murray yn un o’r cyd-berchnogion.
“Mae Castore wedi adeiladu enw da fel cwmni uchelgeisiol mewn marchnad dillad chwaraeon cystadleuol iawn, ac rydyn ni’n teimlo eu bod nhw’n bartner gwych i’r clwb,” meddai Lee Charnley, rheolwr gyfarwyddwr Newcastle United.