Cafodd tîm criced Morgannwg grasfa o wyth wiced yn erbyn Essex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 1).

Dim ond 104 sgorion nhw ar ôl batio’n gyntaf, a chyrhaeddodd y Saeson y nod gyda sgôr o 108 am ddwy oddi ar 12.2 o belawdau.

Mae’r canlyniad yn hwb i Essex sy’n dal i fynd am le yn yr wyth olaf, ond mae’n golygu bod ymgyrch Morgannwg ar ben i bob pwrpas.

Tarodd Dan Lawrence 55 heb fod allan oddi ar 31 o belenni – ei ail hanner canred yn y gystadleuaeth eleni – a tharodd Adam Wheater 39 i’r tîm cartref mewn partneriaeth o 70, yn dilyn perfformiad clodwiw’r bowlwyr i fowlio Morgannwg allan mewn 17 o belawdau.

Roedd Morgannwg heb bedwar chwaraewr blaenllaw – Marnus Labuschagne, Nick Selman a Michael Neser oherwydd protocolau Covid a Prem Sisodiya oherwydd anaf.

Batiad siomedig Morgannwg

Ar ôl galw’n gywir, roedd penderfyniad Morgannwg i fatio’n ymddangos yn gamgymeriad wrth i fowlwyr Essex fanteisio ar lain hybrid.

Kiran Carlson oedd y batiwr cyntaf allan, wrth iddo fe gael ei ddal ar y ffin yn sgwâr ar ochr y goes gan Michael Pepper am naw, gyda Jack Plom yn dechrau’r ornest gyda wiced mewn pelawd ddi-sgôr.

Cafodd Colin Ingram fatiad siomedig eto wrth gael ei fowlio oddi ar ei goesau gan Dan Lawrence am un, ac roedd gwaeth i ddod wrth i David Lloyd gael ei redeg allan gan Plom, oedd yn maesu ar ffin y goes fain bell, yn niwedd y cyfnod clatsio i adael Morgannwg yn 40 am dair.

Adeiladodd Chris Cooke a Billy Root bartneriaeth o 37 am y bedwaredd wiced cyn i’r capten Cooke roi daliad i Aron Nijjar yn y cyfar, gyda Root hefyd yn rhoi daliad i Pepper ar y ffin wrth yrru’n syth ar ochr y goes, gyda Morgannwg erbyn hynny’n 91 am bump.

Roedden nhw’n 96 am chwech cyn diwedd y bymthegfed pelawd wrth i Dan Douthwaite ergydio i’r wicedwr Wheater oddi ar fowlio Nijjar am 13, cyn i James Weighell ergydio’n syth at Pepper ar y ffin ochr agored, a hwnnw’n cipio’i drydydd daliad.

Cwympodd tair wiced ola’r batiad yn yr unfed belawd ar bymtheg a gafodd ei bowlio gan Sam Cook, gyda Wheater yn dal Sam Pearce oddi ar ymyl ei fat, yn taro coes Roman Walker o flaen y wiced ac yn gwylio wrth i Ryan ten Doeschate redeg Callum Taylor allan.

Essex yn cwrso heb drafferth

Er i Forgannwg gael trafferthion mawr ar y llain, roedd batio’n edrych yn syml i Essex wrth iddyn nhw geisio cwrso’r nod mor gyflym â phosib.

Tarodd Roman Walker goes Will Buttleman o flaen y wiced am chwech, ond parhau i ymosod wnaeth Wheater.

Cafodd Dan Lawrence ei ollwng ar 11 a 15 ond fe wnaeth e daro ergyd am chwech i sicrhau partneriaeth o hanner cant – a phartneriaeth oedd yn werth 70 yn y pen draw cyn i Wheater gael ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter am 39.

Tarodd Lawrence ddwy ergyd arall am chwech i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 30 o belenni ac i sicrhau bod ei dîm yn cipio buddugoliaeth gyfforddus.

Ymateb

“Ddaru popeth fynd o’i le o’r eiliad ddaru ni gamu oddi ar y bws, a bod yn onest,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

“Roeddan ni’n gwybod fod angen i ni guro’r pedair gêm olaf a bod yn bositif iawn ond mi gollon ni wicedi’n gynnar.

“Roedd angen i Ingram ddod i’r parti ond doedd hynny ddim am fod.

“Mae o wedi cael ymgyrch anod ac mae ganddo fo safonau uchel iawn. Pan mae o’n perfformio’n dda, mae’r bêl ddaru o fynd allan yn hedfan am chwech.

“Ddaru ni pigo allan y maeswyr pan ddaru ni fynd am ergydion a doedd o ddim am fod yn ddigon.

“Roedd hi’n llain 180 dw i’n meddwl a ddaru ni fynd ar ei hôl hi a gorffen i fyny’n ei chwrso hi ac yn ceisio cael cyfanswm.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai 140 neu 150 wedi bod yn ddigon da heddiw.

“Dw i’n siomedig iawn ein bod ni’n siŵr o fod allan o’r gystadleuaeth rŵan.”