Mae Jonathan Humphreys yn dweud y bydd chwarae o flaen cefnogwyr cartref eto yn beth “enfawr” i Gymru pan fyddant yn dechrau cyfres ryngwladol yr haf yn erbyn Canada.

Mae’r cyfyngiadau parhaus yn golygu mai dim ond 8,200 all fod yn bresennol yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn.

Ond dyma’r tro cyntaf ers y gêm Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc dros 16 mis yn ôl i gefnogwyr gael gwylio Cymru yng Nghymru.

“Mae’n beth enfawr i ni,” meddai’r hyfforddwr cynorthwyol, Humphreys.

“Rydych chi’n mynd yn ôl i’r hydref, ac roedden ni’n chwarae y tu hwnt i’r stadiwm (yn Llanelli) am ei fod (Stadiwm Principality) yn ysbyty maes.

“Yna cawsom gyffro’r Chwe Gwlad, oherwydd roedd mynd yn ôl i Stadiwm Principality yn beth mawr, hyd yn oed i hyfforddi.

“Nawr, gyda thorf, bydd 8,000 o bobl yn dal i wneud llawer o sŵn i ni.

“Dydw i ddim yn meddwl bod (clo Cymru sydd heb ei gapio) Ben Carter wedi chwarae gêm rygbi ar lefel uwch o flaen torf! Dw i’n hapus bydd 8,000 yno, a gobeithio y byddwn yn gallu dychwelyd i gael llawer mwy na hynny’n gyflym iawn.”

Bydd Ben Carter a’r newydd-ddyfodiad arall – asgellwr y Scarlets, Tom Rogers – yn cael eu capiau cyntaf yn erbyn tîm Canada sydd heb chwarae ers Cwpan y Byd 2019.

Ac er y bydd chwaraewyr blaenllaw ar goll oherwydd taith y Llewod i Dde Affrica, mae cryn brofiad yn y garfan o hyd gan bobl fel y capten Jonathan Davies, y blaenasgellwr Ross Moriarty a’r cefnwr, Leigh Halfpenny – a fydd yn gwneud ei 100fed ymddangosiad mewn gêm brawf (Cymru a’r Llewod).

“Mae Jon wedi bod yn wych,” ychwanegodd Humphreys. “Fel plentyn ifanc yn dod i mewn am ei gap cyntaf, gydag ef yn gapten y tîm… mae wedi cael dylanwad da iawn o ran hynny.

“Rwy’n siŵr y bydd yn siomedig i golli allan (ar daith y Llewod), ond dydych chi ddim yn gweld hynny o gwmpas y grŵp. Dyw hynny heb gael ei grybwyll, ac dyw e wedi effeithio arno fe o ran y ffordd y mae’n hyfforddi ac yn paratoi.

“Bydd e’n gwybod hefyd ei fod anaf i ffwrdd o gael ei alw i fyny a bod yn rhan fawr o’r gyfres Llewod.

“Ond fyddech chi ddim yn gwybod hynny yma. Mae’r Ariannin ar ôl y gêm hon – tri gêm brawf enfawr i gyd – ac mae e am fod yn gapten buddugol yn y cwbl.

“A Ross, roedd yn chwaraewr mawr i ni yn y Chwe Gwlad olaf ond un. Chwaraeodd e’n dda iawn i ni, ond mae wedi cael ychydig o anafiadau ar hyd y ffordd.

“Mae’n chwaraewr mawr i ni wrth symud ymlaen, felly i’w gael e’n ôl o amgylch y grŵp, mae’n rhoi corfforoldeb go iawn i ni a gobeithio y bydd yn mynd yn dda y penwythnos hwn.”

Er gwaethaf ei ddiffyg profiad, Carter fydd yn galw’r llinellau i Gymru ar ei ymddangosiad cynta, ac mae Humphreys yn dipyn o edmygwr.

“Dw i wedi’i wylio dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac mae wedi creu argraff fawr arnaf,” meddai Humphreys.

“Yn gorfforol, gall e gystadlu ar y lefel hon, sef y peth cyntaf rydych chi’n chwilio amdano. Mae e wedi bod yn dysgu llawer… Mae wedi bod yn dda iawn ac yn ddiwyd iawn.”