Y rheolwr profiadol Phil Parkinson yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Wrecsam, gan olynu Dean Keates.

Gadawodd Keates ei swydd fis diwethaf, ac mae Parkinson wedi llofnodi cytundeb 12 mis yn y lle cyntaf.

Mae ganddo fe ddau ddegawd o brofiad yn rheolwr, ac fe chwaraeodd e fwy na 500 o gemau yn ystod gyrfa oedd wedi para 18 mlynedd ar y cae.

Mae e wedi ennill dyrchafiad dair gwaith, a’i swydd ddiweddaraf oedd rheolwr Sunderland.

Dywedodd ei fod yn “benderfyniad hawdd iawn” i ymuno â Wrecsam, a bod y clwb “wedi gwerthu’i hun” iddo fe.

Mae’r tymor newydd yn dechrau ar Awst 21, ac mae’n dweud mai ychwanegu chwaraewyr at y garfan fydd y nod yn y lle cyntaf.

Fe fu’r perchnogion, yr actorion enwog Rob McElhenney a Ryan Reynolds, yn ystyried 60 o ymgeiswyr ar gyfer y swydd.

“Mae gan amcan ar unwaith o ennill dyrchafiad ond mae e’n ymwybodol o’n huchelgais ar gyfer y clwb, ac fe wnaeth e amgyffred pob elfen o’n gweledigaeth,” medda’r ddau mewn datganiad.

Gyrfa

Dechreuodd Phil Parkinson ei yrfa fel chwaraewr gyda Southampton cyn mynd i Bury ac yna i Reading, lle treuliodd e dros ddegawd.

Colchester oedd ei glwb cyntaf yn rheolwr, ac fe enillon nhw ddyrchafiad i’r Bencampwriaeth o dan ei arweiniad yn 2006.

Ymunodd e â Hull ac yna Charlton fel is-reolwr cyn olynu Alan Pardew yn rheolwr.

Symudodd e i Bradford yn ddiweddarach, gan gyrraedd ffeinal Cwpan Capital One yn erbyn Abertawe yn 2012-13.

Enillodd Bradford ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor hwnnw cyn curo Chelsea yng Nghwpan FA Lloegr y tymor canlynol.

Enillodd e ddyrchafiad gyda Bolton yn 2016-17 cyn symud i Sunderland.

Steve Parkin fydd ei is-reolwr, ac mae disgwyl iddo benodi rhagor o staff maes o law.