Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi tîm y Llewod ar gyfer gêm gynta’r daith yn erbyn Sigma Lions ddydd Sadwrn (Gorffennaf 3).

Mae 14 newid i’r tîm o’r fuddugoliaeth yn erbyn Siapan ddydd Sadwrn (26 Mehefin).

Bydd Louis Rees-Zammit a Josh Adams ar yr asgell, Wyn Jones yn y rheng flaen a Taulupe Faletau yn wythwr, a bydd Gareth Davies ar y fainc.

Mae’r Albanwr Stuart Hogg wedi cael ei enwi yn gapten yn absenoldeb Alun Wyn Jones, sydd wedi gorfod gadael y daith oherwydd anaf.

Mae’r clo Jonny Hill, y blaenasgellwr Hamish Watson, y canolwr Chris Harris a Louis Rees-Zammit yn chwarae i’r Llewod am y tro cyntaf.

Bydd Finn Russell ac Owen Farrell yn creu partneriaeth gyffrous fel maswr a chanolwr rhif 12.

“Mae’n dda cael dechrau’r daith,” meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland.

“Mae rhai cyfuniadau o chwaraewyr newydd i ni gael golwg arnyn nhw ddydd Sadwrn, sy’n wybodaeth dda i ni wrth i’r gyfres Brawf nesáu.

“Llongyfarchiadau i bawb sy’n chwarae eu gêm gyntaf fel Llew, ac i Hoggy hefyd – dw i’n siŵr y bydd yn arwain y tîm drwy esiampl.”

Y Tîm:

Stuart Hogg; Louis Rees-Zammit, Christopher Harris, Owen Farrell, Josh Adams; Finn Russell, Ali Price; Wyn Jones, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, Jonny Hill, Courtney Lawes, Hamish Watson, Talupe Faletau.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Zander Fagerson, Iain Henderson, Sam Simmonds, Gareth Davies, Bundee Aki, Elliot Daly