Mae trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd wedi gohirio’r ras tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Maen nhw’n dweud mai “gyda chalon drom” maen nhw wedi symud y ras o Hydref 3 i Fawrth 27, y trydydd tro i’r ras gael ei gohirio yn sgil y pandemig Covid-19.

Dydy’r ras ddim wedi cael ei chynnal ers mis Hydref 2019.

Bryd hynny, Leonard Langat o Cenia ddaeth i’r brig, gyda mwy na 25,000 o redwyr yn cystadlu ac fe dorrodd e record drwy orffen y ras mewn 59 munud 30 eiliad.

Eglurhad

Mae’r trefnwyr wedi egluro’u penderfyniad i ohirio’r ras mewn datganiad ar eu gwefan.

“Mae Run 4 Wales (R4W) wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i ddeall yn union bryd y gallwn ni disgwyl i ddigwyddiadau dychwelyd yn ddiogel yng Nghymru, gan gynnwys Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd (HMC),” meddai Matt Newman, prif weithredwr Run 4 Wales.

“Er bod y broses o gyflwyno brechlynnau yn y Deyrnas Unedig yn parhau i gynnig gobaith, mae’r sefyllfa yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr, gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn caniatáu i uchafswm o 4,000 o bobol fynychu digwyddiadau awyr agored, gan gynnwys unrhyw wylwyr sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

“Hefyd, ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i lacio’r rheolau cadw pellter cymdeithasol o ddwy fetr, sy’n cyflwyno heriau gweithredol sylweddol i drefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae HMC wedi tyfu i fod yr hanner marathon ail mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 25,000 o gyfranogwyr ac o gwmpas 100,000 o wylwyr yn llinellu’r strydoedd.

“Mae angen ar gyfnod sylweddol i gynllunio ar gyfer digwyddiad o’r raddfa hon ac rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod tyngedfennol.

“Mae adolygiadau 21 diwrnod Llywodraeth Cymru yn golygu na all R4W ragweld y cyfyngiadau cyffredinol a fydd mewn grym yr Hydref hwn, felly mae angen gwneud penderfyniad nawr.

“O achos yr holl ansicrwydd ac ar ôl cytuno â Chyngor Caerdydd, mae’r amgylchiadau’n mynnu bod rhaid i ni ohirio HMC 2021 hyd at wanwyn 2022.

“Mae iechyd a diogelwch cyfranogwyr y ras, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff Run 4 Wales ar flaenllaw ein meddwl wrth wneud penderfyniadau a gobeithiwn fod pawb yn deall y rhesymau dros y penderfyniad.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant digwyddiadau ac rydym yn gobeithio bydd hi’n bosib cynnal digwyddiadau eraill o fewn ein portffolio o fewn y canllawiau’r Hydref hwn.”