Mae adroddiadau y bydd Scott Williams yn dychwelyd i’r Scarlets ar ôl tri thymor gyda’r Gweilch.

Cafodd ei ryddhau gan y Gweilch fis diwethaf ar ôl dioddef ag anafiadau, ar ôl chwarae dim ond 27 gêm iddyn nhw dros y tri thymor.

Mae’n un o’r chwaraewyr mwyaf uchel ei barch rygbi Cymru, ac fe fu’n gapten ar Gymru yn ystod ei 58 o gapiau, yn ogystal ag ymddangos yng Nghwpan y Byd ddwywaith.

Gadawodd Hadleigh Parkes a Kieron Fonotia y Scarlets y llynedd, ac mae’r rhanbarth hefyd wedi ffarwelio â Paul Asquith ac Osian Knott yr haf hwn.

Mae ganddyn nhw bedwar canolwr blaenllaw – Johnny Williams, Jonathan Davies, Steff Hughes a Tyler Morgan – ond fe wnaeth anafiadau a galwadau i garfan Cymru gyfyngu ar nifer y gemau chwaraeodd Johnny Williams a Jonathan Davies y tymor hwn.