Mae TikTok – sy’n blatfform adloniant digidol rhyngwladol – wedi arwyddo cytundeb er mwyn noddi Clwb Pêl-Droed Wrecsam am y ddau dymor nesaf.

Bydd enw a logo TikTok yn ymddangos ar grysau newydd y clwb, a bydd y tîm yn lansio cyfrif TikTok swyddogol.

Mae’r bartneriaeth rhwng y Clwb, y perchnogion Rob McElhenney a Ryan Reynolds, a TikTok “yn addo i fod yn un o’r rhai mwyaf arloesol yn y byd pêl-droed a maes adloniant” medd y clwb mewn datganiad.

“Rydyn ni wedi’n syfrdanu gan y syniadau oedd gan TikTok at gyfer eu partneriaeth gyda’r Clwb,” meddai Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam.

“Mae’r cyfle i gael mynediad at eu cyrhaeddiad cymdeithasol llawn yn creu cyfle i adeiladu cymuned a fydd nifer yn genfigennus ohono.

“Bydd ein cyfrif TikTok, a fydd yn cael ei lansio’n fuan, yn cynnwys pawb sydd ynghlwm â’r Clwb, gan gynnwys Rob a Ryan.

“Mae cael TikTok ar flaen ein crysau yn gyflawniad gwych, a dw i’n siŵr y bydd e’n boblogaidd ymysg ein cefnogwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n defnyddio TikTok.”

“Salfe unigryw”

TikTok yw noddwr swyddogol Ewro 2020, ac mae’r platfform wedi dod yn gartref i gynnwys yn ymwneud â chwaraeon dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae TikTok mewn safle unigryw yng nghanol y byd adloniant a thechnoleg, ac i greu cymuned i helpu i ddod â stori Clwb Pêl-droed Wrecsam yn fwy i gynulleidfaoedd rhyngwladol,” meddai Nick Tran, Pennaeth Marchnata TikTok.

“Gyda thwf clybiau pêl-droed, chwaraewyr, a trends ar TikTok, roedd ymuno â Rob a Ryan wrth i Glwb Pêl-droed Wrecsam ddychwelyd ar Gynghrair Bêl-droed Lloegr yn ddewis naturiol i ni.

“Rydyn ni’n falch o chwarae rhan fach i ddathlu dychweliad Clwb Pêl-droed Wrecsam i uchelfannau pêl-droed, a rhannu’r siwrne gyda thref Wrecsam, ein cymuned, a chefnogwyr ym mhob man, mewn ffordd sydd ond yn bosib drwy TikTok.”

Ifor Williams Trailers

Yn y cyfamser, bydd Ifor Williams Trailers yn parhau fel prif noddwr lleol Wrecsam ar gyfer y ddau dymor nesaf.

Yn ôl y cwmni, gwneuthurwr trelars mwyaf Ewrop, mae’r berchnogaeth newydd yn cynrychioli cyfle masnachol unwaith mewn oes i’r clwb, ac mae nhw’n falch o fod yn rhan o bennod newydd gyffrous yn hanes y clwb.

“Mae perchnogaeth newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gwireddu breuddwyd i bawb, sydd er gwaethaf yr heriau niferus a chymhleth dros y blynyddoedd, wedi cadw fflam pêl-droed proffesiynol yn fyw ac iach yng ngogledd Cymru,” meddai Carole Williams, Cyfarwyddwr Ifor Williams Trailers.

“Wrth drosglwyddo nawdd blaen crys i’r noddwyr anhygoel newydd, hoffem gydnabod cyfraniad pwysig y llu o unigolion gwirfoddol ymroddedig, sydd wedi gwneud cymaint yn y Clwb ac ar lefel Cynghrair Pêl-droed Cymunedol i bob oed, yn nhaith arbennig Clwb Pêl-droed Wrecsam.”

Clwb Pêl-droed Wrecsam yn nwylo Ryan Reynolds a Rob McElhenney

Maen nhw wedi cymryd rheolaeth o’r clwb wrth i Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr gamu o’r neilltu

Canmol sêr-berchnogion Wrecsam am eu hagwedd at y Gymraeg

Iolo Jones

“Ro’n i mor impressed!” medd Maxine Hughes wrth ddatgelu wrth golwg360 bod Rob McElhenney yn dysgu Cymraeg