Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu Hamish Rutherford, chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd, fel chwaraewr tramor ar gyfer y gystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London ac am gemau ola’r Bencampwriaeth.

Bydd y batiwr 32 oed yn dod yn lle’r Awstraliad Marnus Labuschagne, sy’n mynd adre’ ar ddiwedd cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast i baratoi ar gyfer tymor domestig Awstralia.

Mae Rutherford, mab cyn-gapten Seland Newydd Ken Rutherford, wedi chwarae 28 o weithiau dros ei wlad ar draws pob fformat, ac mae e wedi chwarae yn Lloegr o’r blaen i Essex a Swydd Gaerwrangon.

Mae e wedi sgorio 3,456 o rediadau mewn gemau undydd Rhestr A, a hynny ar gyfartaledd o bron i 37 a chyfradd sgorio o 96.5, ac mae e wedi taro 12 canred mewn cyfanswm o 98 o gemau.

Mewn gemau dosbarth cyntaf, mae e wedi sgorio bron i 7,000 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 36, gan gynnwys 15 canred.

‘Bonws enfawr’

Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, mae colli Marnus Labuschagne yn “golled” ond mae denu Hamish Rutherford yn ei le yn “fonws enfawr”.

“Mae e wedi profi’i hun gyda record o sgorio rhediadau mewn criced dosbarth cyntaf a Rhestr A yma, a fe yw’r cymeriad cywir i’w gael yn yr ystafell newid i’n chwaraewyr iau gael dysgu wrtho fe,” meddai.

Dywed Rutherford ei fod e’n “edrych ymlaen yn fawr” at ymuno â Morgannwg am weddill y tymor.

“Dw i wedi bod yn ffodus o gael chwarae llawer o griced sirol a dw i bob amser yn mwynhau’r her – gobeithio y galla i ddefnyddio fy mhrofiad i helpu rhai o’r chwaraewyr iau yn y garfan.

“Mae gallu dod yma a chael dechrau ar gystadleuaeth lle mae pob tîm yn dechrau o’r newydd hefyd yn destun cyffro.

“Gobeithio y gallwn ni fwrw idd yn y gystadleuaeth 50 pelawd a chael peth momentwm yng nghyfnod olaf criced dosbarth cyntaf.”

Capten a phrif hyfforddwr dros dros

Yn y cyfamser, mae Morgannwg wedi penodi dau Gymro i arwain y sir yng Nghwpan Royal London.

Mae Kiran Carlson o Gaerdydd wedi’i benodi’n gapten yn lle Chris Cooke, fydd yn chwarae i Birmingham yn y gystadleuaeth can pelen ddinesig The Hundred, tra bydd David Harrison, yr is-hyfforddwr yn camu i fyny i fod yn brif hyfforddwr tra bod Matthew Maynard yn ymuno â’r Tân Cymreig.

Bydd yr is-gapten David Lloyd hefyd i ffwrdd gyda’r Tân Cymreig yn ystod Cwpan Royal London ac felly mae’r Cymro ifanc Carlson yn cael ei gyfle i brofi ei hun yn gynnar yn ei yrfa.

Mae Carlson wedi bod yn rhagorol y tymor hwn, a fe yw prif sgoriwr rhediadau’r sir yn y Bencampwriaeth, gyda chyfanswm o 580 ar gyfartaledd o 58.

Yn gynharach y tymor hwn, fe wnaeth e dorri record drwy fod y Cymro cyntaf erioed i sgorio canred yn y ddau fatiad mewn gêm Bencampwriaeth ers 2005, a hynny yn erbyn Sussex – y Cymro Jonathan Hughes oedd y chwaraewr diwethaf i gyflawni’r gamp.

“Mae’n golygu llawer i arwain y bois allan, dw i’n chuffed bod y rhai wrth y llyw yn credu mai fi yw’r boi ar gyfer y job,” meddai.

“Dw i wedi cyffroi’n fawr a gobeithio y galla i gyflawni’r swydd yn dda.

“Dw i’n mwynhau ochr dactegol y gêm a bydd gyda fi fois o ’nghwmpas i â llawer o brofiad y galla i edrych tuag atyn nhw, gobeithio y bydd Michael Hogan o gwmpas yn y gystadleuaeth undydd ac yn gallu trosglwyddo’i wybodaeth i fi, a galla i ei chymryd hi a rhoi fy stamp fy hun ar y gapteniaeth.”

Yn gyn-fowliwr cyflym gyda Morgannwg, fe wnaeth David Harrison ymddeol o’r gêm yn 2011 ar ôl cipio bron i 400 o wicedi, ac fe wnaeth e ymuno â’r tîm hyfforddi gan wneud sawl swydd wahanol.

Mae e hefyd wedi bod yn is-hyfforddwr gyda Llewod Lloegr.

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael bod yn brif hyfforddwr ar y clwb dw i wedi bod â nhw ers dros 20 mlynedd,” meddai, gan ddweud bod Matthew Maynard wedi bod yn ddylanwad enfawr arno.

“Mae’n her wahanol ond yn rhywbeth dw i’n falch iawn ohono.”

‘Cyfle gwych’

“Gyda Matt a Chris i ffwrdd ar gyfer Cwpan Royal London, mae hwn yn gyfle gwych iddyn nhw gamu i fyny a chymryd mwy o gyfrifoldeb,” meddai Mark Wallace.

“Mae Dave yn hyfforddwr gwych a chanddo fe ddigon o brofiad gyda Morgannwg a Llewod Lloegr, ac roedd yn gam naturiol iddo fe ddod yn brif hyfforddwr gyda Matt i ffwrdd.

“Mae Kiran wedi creu argraff ar bawb eleni, nid yn unig o ran ei griced ond ei aeddfedrwydd a’i arweiniad.

“Mae e’n aelod hynod boblogaidd o’r ystafell newid ac er gwaetha’i oedran ifanc, mae e’n berson y mae’r bois i gyd yn edrych i fyny ato.”