Mae’r gwres llethol yng ngorllewin Canada dros y dyddiau diwethaf yn cael ei gysylltu â dwsinau o farwolaethau sydyn yn ardal Vancouver, meddai’r awdurdodau.

Dywed yr heddlu eu bod wedi ymateb i 25 o alwadau am farwolaethau sydyn o fewn cyfnod o 24 awr. Mae ymchwiliadau’n parhau i’r marwolaethau ac mae’n debyg mai pobl oedrannus oedd y rhan fwyaf fu farw.

Roedd y tymheredd yn ardal Vancouver wedi cyrraedd tua 32C (90F) ddydd Llun (Mehefin 28) ond oherwydd y lleithder roedd yn teimlo’n agosach at 40C (104F) mewn ardaloedd sydd ddim wrth ymyl y dŵr.

Yn Vancouver, dywed yr heddlu eu bod nhw wedi gofyn i’r cyhoedd ffonio 911 ar gyfer achosion brys yn unig gan fod nifer y marwolaethau wedi rhoi pwysau ar eu hadnoddau ac amseroedd ymateb.

“Nid yw Vancouver wedi cael gwres fel hyn o’r blaen ac yn anffodus mae dwsinau o bobl wedi marw o’i herwydd,” meddai Rhingyll Steve Addison. “Mae ein swyddogion dan bwysau ond ry’n ni’n gwneud popeth yn ein gallu i gadw pobl yn ddiogel.”

Erbyn prynhawn dydd Mawrth, meddai, roedd yr heddlu wedi ymateb i fwy na 65 o farwolaethau sydyn ers i’r gwres llethol ddechrau ddydd Gwener.

Yn ôl Environment Canada mae’r gwres wedi torri record newydd gan gyrraedd 47.9C (118F) yn Lytton, British Columbia.