Mae disgwyl i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ddod i gytundeb munud olaf yn y ddadl dros y gwaharddiad rhag symud selsig a chigoedd oer eraill i Ogledd Iwerddon o Brydain.
Bydd y ddwy ochr yn cyhoeddi estyniad i’r cyfnod gras heddiw (30 Mehefin), mae’n debyg, a fydd yn caniatáu i gig gael ei gludo i Ogledd Iwerddon – oriau cyn y byddai’r gwaharddiad wedi dod i rym.
Fe fydd Maros Sefcovic, Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn annerch y wasg brynhawn heddiw (30 Mehefin), ac mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ryddhau datganiad hefyd.
Roedd Downig Street wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl cytundeb er mwyn osgoi’r gwaharddiad ar gludo cig oer a selsig “ar delerau a fyddai’n dderbyniol i’r Deyrnas Unedig”.
Pe na bai cytundeb, byddai’r gwaharddiad yn dod i rym fory (1 Gorffennaf).
“Rhyfel selsig”
Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dadlau y bydden nhw’n ymestyn y cyfnod gras, hyd yn oed heb gytuno ar hynny gyda’r Undeb Ewropeaidd, rhywbeth a fyddai’n achosi i’r Undeb Ewropeaidd gwffio’n ôl fel rhan o’r hyn sy’n cael ei alw’n “rhyfel selsig”.
Mae’r gwaharddiad ar gigoedd oer yn un rhan o Brotocol Gogledd Iwerddon, sydd wedi achosi cyfres o rwystrau economaidd ar fasnachu rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig wedi Brexit.
Mae cludo cigoedd oer o wledydd sydd ddim yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd i’r farchnad sengl wedi’i wahardd – a bydd yn berthnasol i weddill y Deyrnas Unedig oni bai fod datrysiad hirdymor i’r ddadl.
Dywedodd Maros Sefcovivc wrth bwyllgor Cynulliad Gogledd Iwerddon ddydd Llun (28 Mehefin) ei fod e’n hyderus y bydd estyniad “a fydd yn cydnabod anghenion a phryderon y ddwy ochr”.
Byddai cytundeb ar ran y Deyrnas Unedig fod eu safonau anifeiliaid a phlanhigion yn cyd-fynd â rheoliadau bwyd-amaeth Brwsel yn ddatrysiad hirdymor “amlwg” i’r sefyllfa, meddai.