81 o flynyddoedd i’r diwrnod (30 Mehefin) ers i deuluoedd Epynt ym Mhowys gael eu troi o’u cymuned er mwyn i’r ardal gael ei defnyddio fel maes ymarfer milwrol, mae Cymdeithas y Cymod yn nodi’r achlysur drwy ddefnyddio cerdd Waldo Williams, Daw’r wennol yn ôl i’w nyth, fel canolbwynt i’r cofio.
Y gobaith yng ngherdd Waldo yw y bydd y tir ble mae pobol yn ymarfer lladd, a pharatoi at ryfel, yn cael ei droi’n ôl at bwrpas adeiladol a chymunedol, ac fel symbol o hynny mae’r Gymdeithas wedi bod wrthi’n creu gwenoliaid clai.
Mae’n fwriad i Gymdeithas y Cymod fynd ar bererindod i Epynt gyda’r gwenoliaid, sydd wedi cael eu creu gan y crochenydd Tanwen Wilkinson, gan edrych tuag amser pan fydd bodolaeth y fyddin yno’n cael ei herio.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd 54 o aelwydydd orchymyn i adael eu cartrefi gyda chwe wythnos o rybudd, ac mae Byddin Prydain yn parhau i ddefnyddio’r safle ar gyfer ymarfer.
Gobaith Cymdeithas y Cymod, sef mudiad o heddychwyr, yw bod heddiw’n gyfle i dynnu sylw at weithgarwch y fyddin yn Epynt.
“Nid dyma’r ffordd ymlaen”
“Rydyn ni’n teimlo heddiw fod o’n ddiwrnod arbennig gan ein bod ni wedi creu’r gwenoliaid hyn, ac mae’r holl ffocws ar Daw’r wennol yn ôl i’w nyth – cerdd Waldo Williams,” esboniodd Awel Irene, cydlynydd Cymdeithas y Cymod, wrth golwg360.
Cafodd y gerdd ei hysgrifennu gyda Chastell Martin, pentref yn Sir Benfro a gafodd ei droi’n faes ymarfer milwrol fel Epynt, mewn golwg, ond mae hi’r un mor berthnasol i Fynydd Epynt.
“Y teimlad sydd gan Gymdeithas y Cymod, fel mudiad o heddychwyr, mi fydd yna amser pan fydd dim angen cael byddin Brydeinig yn hyfforddi ar dir Cymru.
“Dydyn ni ddim yn teimlo mai dyna’r ffordd ymlaen i ddyfodol y genedl, trwy ddefnyddio trais.”
“Tynnu sylw”
“Yr holl deuluoedd sydd wedi gadael Epynt, maen nhw ar wasgar dros y byd, ond mae o hefyd yn drist efo chwalfa teuluoedd mae’r iaith wedi’i cholli,” ychwanegodd Awel Irene.
“Roedd un o’r disgynyddion yn dweud bod 95% o’r teuluoedd sydd wedi cael eu gwasgaru wedi colli’r iaith.
“Dyma be sy’n digwydd wrth i ardal fel Epynt, ardal mor hanesyddol, mor enwog, gael ei dileu o’r map o Gymru go iawn.
“Rydyn ni wedi colli’r hanes yma, mae hanesion Epynt ynglŷn â’r hen dafarn oedd yna – tafarn yn y mynyddoedd, The Drover’s Arms – mae hwnnw rŵan yn cael ei ddefnyddio gan y fyddin fel military headquarters.
“Maen nhw wedi creu pentref ffug yng nghanol Epynt, sy’n edrych mwy fel pentref ym Mosnia, lle maen nhw’n ymarfer a dysgu sut i ladd a chwffio rhyfeloedd yn Ewrop, hyd yn oed.
“Am bod ni ddim yn cael gweld na gwybod, dydi Cymru ddim yn ymwybodol o beth sy’n digwydd ar Epynt yn enw ein cenedl ni.
“Dyna pam bod angen tynnu sylw mwy a mwy at beth sy’n digwydd yn yr Epynt, ac mae diwrnodau fel heddiw, yn gyfle i dynnu sylw at hyn.”
Daw’r wennol yn ôl i’r nyth
“Rydyn ni’n cynllunio pererindod, ac rydyn ni’n gobeithio mynd yn ôl i’r Epynt ar 2 Hydref,” meddai Awel Irene.
“Bydd hwn yn ddigwyddiad lle rydyn ni’n gobeithio dod â’r gwenoliaid, a’r syniad ydi y bydd pobol yn gallu mynd gyda’i gwennol yn ôl i’r cartrefi lle’r oedd y disgynyddion wedi byw, a hefyd i Gapel y Babell – capel ynghanol Epynt, sydd wedi cael ei dynnu lawr i’r gwaelod, dim ond y sylfaen sydd ar ôl.
“Mae’r Capel yn ysbrydoliaeth i’r holl gymuned, roedd pobol yn ymhél, wrth gwrs, yn y capel.
“Dyna’n bwriad ni, mynd â’r gwenoliaid yn ôl. Ac rydyn ni’n edrych i’r dyfodol, pan fydda ni’n herio bodolaeth y fyddin yn yr Epynt rŵan.”
“Chwibanu gobaith”
Cafodd y gwenoliaid, sydd ar werth ar wefan Cymdeithas yr Iaith, eu creu gan Tanwen Wilkinson sy’n byw yng Nghrai yn y Bannau Brycheiniog.
Gweithred o gofio ac o gariad yw pob gwennol, sydd wedi’u creu gan ddefnyddio clai o nentydd Mynydd Epynt, gyda phob un yn unigryw, ac yn symbol o obaith y “Daw’r wennol yn ôl i’w nyth”.
“Mae pobol a ddadleolwyd, genhedlaeth ar genhedlaeth, pobol a flinwyd gan eironi rhyfeloedd, yn cario creithiau’r chwedlau a ladratwyd, ac mae’r golled nad oes neb yn ei hyngan yn galw am iaith, am ieithoedd, fel y mae’r calonnau toredig mewn gwledydd toredig yn galw am aelwyd, am aelwydydd,” meddai Tanwen Wilkinson.
Yn ogystal, mae’r gwenoliaid yn ymgorfforiad o harddwch gwyllt a chalon tirlun Mynydd Epynt, gyda’r gwydredd raku yn ein hatgoffa o blu neu wythiennau neu wreiddiau, neu efallai ffyrdd ar fap, esbonia’r crochenydd.
“Mae’r gwenoliaid, wrth ddal anadl y gwynt, yn chwibanu’r gobaith y cawn ni i gyd, ryw ddiwrnod, ddychwelyd i Fynydd Epynt.”