Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “laesu dwylo” wrth fynd i’r afael â dioddefwyr Covid hir.

Mae dioddefwyr yn galw am sefydlu clinigau arbenigol i fynd i’r afael ag effeithiau tymor hir y firws.

Er bod y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £5miliwn er mwyn ehangu’r ddarpariaeth o wasanaethau diagnosis, triniaeth, adsefydlu a gofal i’r rhai sy’n dioddef effeithiau hirdymor Covid-19, gan gynnwys Covid hir yng Nghymru, mae dioddefwyr yn dweud nad yw hyn yn ddigon.

“Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am sefydlu clinigau Covid hir yn ôl ym mis Mawrth ac mae’n siomedig gweld gweinidogion Llafur yn llaesu dwylo,” meddai llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymru, Russell George.

“Byddai clinigau arbenigol yn caniatáu i glinigwyr ddatblygu’r arbenigedd sydd ei angen i drin y salwch newydd hwn a helpu cleifion ar y ffordd i wella.

“Mae’n rhaid i weinidog iechyd Llafur bellach weithredu ar yr alwad hon gan gleifion a sicrhau bod dull cysylltiedig o fynd i’r afael ag effeithiau Covid hir cyn iddo bentyrru mwy o bwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Codi ymwybyddiaeth

Mae grŵp ymgyrchu o’r enw ‘Long Covid Wales’ yn ceisio codi ymwybyddiaeth am y sawl sy’n dioddef â Covid hir.

Cangen Gymreig o’r mudiad ‘Long Covid Support’ yw hon.

Mae’r mudiad wedi bod yn ymgyrchu’n rhyngwladol i hyrwyddo anghenion meddygol dioddefwyr Covid hir yn ogystal â galw am ymchwil i driniaethau ers mis Mai 2020.

Grŵp trawsbleidiol eisiau “creu arbenigedd”

Mae grŵp trawsbleidiol hefyd wedi cael ei sefydlu yn y Senedd er mwyn hyrwyddo anghenion y rhai sy’n dioddef o Covid hir yng Nghymru.

Mae’r grŵp hefyd yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu’r rhai sy’n byw gyda Covid hir yn ogystal â “chreu arbenigedd”.

Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ynys Môn, a Hefin David, y Llafurwr sy’n cynrychioli Caerffili yw dau Gadeirydd y grŵp.

“Mewn ffordd, wrth i ni gychwyn ar y chweched Senedd yma, mi benderfynodd fi a Hefin David efo ein gilydd bod hwn yn rhywbeth fasa’n gallu elwa o gael haen arall o ymyrraeth ynddo drwy gael grŵp trawsbleidiol fyddai’n trio crynhoi profiadau pobol a chyflwyno’r profiad yna a dod a fo i sylw’r Llywodraeth,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth golwg360.

“Dw i yn hollol glir yn meddwl bod angen creu arbenigedd a datblygu’r isadeiledd sydd ei angen er mwyn datblygu’r arbenigedd yna.

“A gymaint â dw i’n croesawu’r newid tôn gan y Gweinidog (Iechyd) newydd o’i gymharu â’r Gweinidog blaenorol a’i bod hi’n ymddangos bod y Gweinidog newydd yn cymryd Covid hir yn fwy o ddifri, ac yn addo gwneud mwy.

“A gymaint ac mae gan feddygon teulu rôl bwysig i chwarae fel y mae cynllun y Gweinidog yn canolbwyntio arno, dw i’n meddwl y dylla ni fod yn cael canolfannau fyddai’n galluogi i arbenigedd gael ei ffurfio a’i ddatblygu ac i arfer da gael ei greu er mwyn cyrraedd at gymaint o bobol â phosib.

“Rydan ni wedi gweld hynny yn digwydd mewn rhannau o Loegr, mae yna un yn bodoli yn ardal Caerdydd hefyd dw i’n meddwl, ond mae isio i hwn fod yn norm dw i’n meddwl.

“Beth sydd isio ydi creu timau wedi’u harwain gan arbenigwyr sydd yn gallu datblygu’r arbenigedd sydd ei angen.”

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o “fethu ag ymateb yn ddigonol i Covid hir”

Er bod Rhun ap Iorwerth yn croesawu “newid agwedd” Llywodraeth Cymru, mae’n dweud ei bod wedi “methu ag ymateb yn ddigonol i Covid hir”.

“Dw i’n meddwl fod y datganiad gafon ni a’r arwydd yma o newid agwedd yn rhywbeth sydd i’w groesawu fel cam i’r cyfeiriad cywir.

“Ond dw i’m yn meddwl ein bod ni ar hyn o bryd yn gweld dealltwriaeth o’r angen i ddatblygu arbenigedd.

“Mae cynllun y Llywodraeth wedi’i ganoli ar waith meddygol teulu, ac mae hynny wedi bod yn bwysig iawn wrth gwrs.

“Ond heb ganolfannau, heb grwpiau o weithwyr iechyd a gofal sy’n cael cyfle a rhyddid i ddatblygu arbenigedd ar hyn dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n mynd i gael y ffocws sydd ei angen.”

“Dw i wedi dweud ers tro bod Llywodraeth Cymru wedi methu ag ymateb yn ddigonol i Covid hir.

“Mi gafon ni sesiynau tystiolaeth ym mhwyllgorau iechyd y Senedd ddiwethaf ac roeddwn i’n ei gwneud hi’n glir ar yr adeg yna bod y Llywodraeth yn methu gwahaniaeth rhwng y bobol oedd yn dioddef â Covid hir a phobol oedd yn dod dros salwch difrifol Covid ac angen rehab ar ôl bod yn sâl iawn.

“Mi wnaeth y Llywodraeth fethu â sylweddoli bod yno wahaniaeth a bod angen buddsoddi mewn Covid hir.

“Mi ddylai’r Llywodraeth fod wedi ymateb yn llawer cynharach.

“Gwell hwyr na hwyrach ydi hi o ran y newid agwedd bositif dw i wedi’i weld gan y Gweinidog, ond rydan ni dal yn aros i’r Llywodraeth yma ymateb yn y ffordd y mae’r arbenigwyr go iawn, sef pobol sy’n dioddef â Covid hir, yn galw amdano.”

“Pryder” am weithwyr iechyd sy’n dioddef â Covid hir

“Mae hi’n bryder difrifol gen i fod yno gymaint o weithwyr iechyd a gofal yn ymddangos fel petai nhw’n dioddef o Covid hir,” meddai wedyn.

“O’r cyfarfodydd dw i wedi cael gyda ‘Covid Hir Cymru’ a dioddefwyr Covid hir yn y Gogledd, mae yna gyfran fawr iawn ohonyn nhw’n weithwyr iechyd.

“Dw i wedi codi efo’r Llywodraeth mod i’n poeni bod yno broblem yn fan hyn.

“A dyma’r bobol roddodd eu diogelwch ei hunain ar y lein i warchod pobol eraill ac maen nhw’n methu â chael y gefnogaeth y byddwn i’n disgwyl iddyn nhw gael gan eu cyflogwyr, sef y Gwasanaeth Iechyd, i gael diagnosis a thriniaeth i’w cael nhw yn ôl i’r gwaith.

“Ma’ raid bod yna broblem yn fan hyn, rydan ni’n colli staff yr yda ni eu hangen o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

“Siawns fod yno ddyletswydd foesol ar Wasanaethau Iechyd a Gofal i ofalu am y bobol wnaeth roi eu hunain mewn perygl drwy ofalu am bobol eraill yn ystod yr argyfwng.

“Mae’r mater hwn o staff iechyd a gofal yn dioddef yn un o’r meysydd y bydda i isio i’r grŵp edrych arno fo.

“Mae hi’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ôl y rheini wnaeth roi eraill yn gyntaf.”

Symptomau

Mae faint o amser mae’n ei gymryd i wella o Covid-19 yn wahanol i bawb.

Mae llawer o bobl yn teimlo’n well ymhen ychydig ddyddiau neu wythnosau a bydd y rhan fwyaf yn gwella’n llwyr o fewn 12 wythnos.

Ond i rai pobl, gall symptomau bara’n hirach.

Gall pobol a oedd â symptomau llai difrifol ar y dechrau ddatblygu problemau hirdymor.

Mae symptomau Covid hir yn cynnwys:

  • blinder eithafol
  • problemau anadl
  • poen yn y frest neu dynerwch
  • problemau gyda chof a chanolbwyntio (“niwl yr ymennydd”)
  • anhawster cysgu
  • iselder a phryder
  • teimlo’n sâl, dolur rhydd, poenau stumog, a dim awydd bwyd
  • tymheredd uchel, peswch, cur pen, gwddf tost, methu arogli neu flasu