Mae Aelodau Seneddol yn annog y Llywodraeth i wneud ymosodiadau ar staff siopau yn drosedd benodol.

Daw hyn yn sgil “llif cynyddol o drais a cham-drin” yn erbyn gweithwyr yn y maes manwerthu.

Dywedodd Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn ddigonol i fynd i’r afael â graddfa gynyddol yr ymosodiadau ac ymddygiad heriol.

Galwodd am roi amddiffyniad ychwanegol i weithwyr siopau yn yr un modd â gweithwyr y gwasanaeth brys a swyddogion y tollau.

Dywedodd y pwyllgor ei fod wedi derbyn tystiolaeth o “gynnydd dychrynllyd” mewn ymosodiadau dros y pum mlynedd ddiwethaf, gyda’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra yn adrodd bod 89% o staff mewn siopau lleol wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth.

Ac ychwanegodd fod ymateb yr heddlu i ymosodiadau o’r fath wedi methu â chyfateb maint y broblem.

“Ar lawer gormod o achlysuron mae gweithwyr manwerthu’n cael eu gadael ar eu pennau’u hunain i reoli sefyllfaoedd sy’n peryglu eu lles corfforol a meddyliol,” meddai’r adroddiad.

“Mae categorïau eraill o weithwyr, megis gweithwyr brys a swyddogion y tollau, wedi cael amddiffyniad ychwanegol gan y gyfraith, a hynny’n briodol, i gydnabod y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i’r cyhoedd a’r cyfrifoldeb a roddir arnynt gan y Senedd.

“Credwn fod yn rhaid cydnabod gweithwyr manwerthu hefyd, a bod yn rhaid trin troseddau yn eu herbyn gyda difrifoldeb ychwanegol, gyda gwarchodaeth ychwanegol rhag y gyfraith.

“Byddai’n anfon neges glir a phwerus na fydd cam-drin a thrais tuag at weithwyr manwerthu yn cael eu goddef.”

“Gweithwyr siopau wedi dioddef yn rhy hir”

Croesawyd yr adroddiad gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain (BRC) a awgrymodd y gallai’r Llywodraeth weithredu drwy ddiwygio’r Mesur Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd.

“Mae gweithwyr siopau wedi dioddef yn rhy hir o lawer,” meddai prif weithredwr Consortiwm Manwerthu Prydain, Helen Dickinson.

“Er gwaethaf y dystiolaeth, mae’r Llywodraeth wedi gwrthod nifer o alwadau i amddiffyn gweithwyr manwerthu drwy greu trosedd benodol.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog y Llywodraeth i wneud yr hyn sy’n angenrheidiol o’r diwedd i ddiogelu staff manwerthu rhag niwed ledled y wlad a rhoi’r gorau i lusgo ei sodlau.”