Mae adolygiad o’r gofal iechyd a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pandemig wedi dod i’r casgliad ei fod “o safon dda” yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Serch hynny mae’r corff yn dweud bod effaith glir wedi bod ar lesiant staff a bydd yr her yn parhau wrth i wasanaethau gofal iechyd fynd i’r afael â’r ôl-groniad triniaethau.

Cafodd dros 110 o wiriadau eu cynnal ledled Cymru yn ystod y pandemig, gan ganolbwyntio ar y graddau yr oedd gwasanaethau gofal iechyd yn darparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion yn ystod y cyfnod hwn.

“Ar adegau, mae’r pandemig wedi datblygu’n gyflym iawn, ac er ein bod o’r farn bod trefniadau rheoli heintiau priodol wedi bod ar waith ar y cyfan, mae nifer y brigiadau o achosion mewn ysbytai a welsom yn ystod yr ail don yn dangos bod angen sicrhau bod trefniadau’n effeithiol, gan leihau’r risg o drosglwyddo’r haint gymaint â phosibl,” meddai AGIC.

Roeddent hefyd yn edrych ar y ffordd yr oedd iechyd a llesiant y staff yn cael eu cefnogi.

“Roedd trefniadau da wedi cael eu cyflwyno mewn gwasanaethau gofal iechyd er mwyn addasu i’r amgylchedd gofal a’r ffordd yr oedd pobl yn cael mynediad at ofal, gan alluogi gwasanaethau i barhau i weithredu yn ystod y pandemig,” meddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mewn datganiad.

“Gwnaed y newidiadau hyn o fewn amserlenni byr iawn yn aml ac roeddent yn cynnwys newidiadau i’r amgylchedd er mwyn cefnogi gofynion cadw pellter cymdeithasol, a darparu apwyntiadau o bell er mwyn cynnal gwasanaethau gofal iechyd mor ddiogel â phosibl.

“Mae gwasanaethau wedi rhoi dulliau gweithredu arloesol ar waith i gefnogi llesiant corfforol a meddyliol cleifion yn ystod y pandemig.”

‘Ymdrech arbennig staff’

Mae’r adolygiad hefyd yn cydnabod yr ymdrech arbennig a wnaed gan staff gwasanaethau gofal iechyd.

Dywed ei bod wedi dangos ymrwymiad diflino a hyblygrwydd yn ystod cyfnod o heriau digynsail.

“Fodd bynnag, roedd yr effaith ar lesiant y staff hyn yn glir,” meddai’r corff, gan ychwanegu: “Heb os, wrth i Gymru barhau ar ei thaith i wella, bydd yr her a wynebir gan wasanaethau gofal iechyd i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o driniaethau yn dod â math gwahanol o bwysau.”

Mae’n galw ar wasanaethau i sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i gefnogi eu staff i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.

“Gwydnwch”

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Rwyf am ganmol ymrwymiad, gwydnwch a hyblygrwydd staff ym mhob rhan o GIG Cymru ac mewn gwasanaethau gofal iechyd annibynnol sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu gofal i gleifion ac i’w gilydd yn ystod yr heriau aruthrol a gyflwynwyd gan COVID-19.

“Er gwaethaf cymhlethdodau digynsail darparu gofal yn ystod y pandemig, mae ein canfyddiad cyffredinol, sef bod gofal o ansawdd da yn cael ei ddarparu, yn brawf o ymrwymiad a dyfeisgarwch timau gofal iechyd ledled Cymru.”