Roedd economi’r Deyrnas Unedig wedi cael ergyd mwy na’r disgwyl rhwng mis Ionawr a Mawrth yn sgil y cyfnod clo ac wrth i aelwydydd gynilo arian, yn ôl ffigurau swyddogol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) – sy’n mesur maint yr economi – wedi crebachu 1.6% yn y chwarter cyntaf, o’i gymharu â’r amcangyfrif blaenorol o 1.5%.

Mae hyn yn golygu bod GDP 8.8% yn is o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig ar ddechrau’r flwyddyn, gyda’r amcangyfrif cychwynnol yn 8.7%.

Dywedodd yr ONS bod aelwydydd wedi torri costau ac yn hytrach wedi cynilo eu harian – gan gynyddu i 19.9% o’i gymharu â 16.1% yn y tri mis blaenorol.

Dyma’r ffigwr ail uchaf ar gofnod – roedd cynilion aelwydydd wedi cyrraedd 25.9% yn ail chwarter 2020.

Dywedodd Jonathan Athow, o’r ONS: “Mae ffigurau GDP sydd wedi’u diweddaru heddiw yn dangos yr un darlun â’n hamcangyfrif blaenorol, gydag ysgolion, lletygarwch a manwerthu i gyd wedi eu heffeithio gan yr ail gyfnod clo ym mis Ionawr a mis Chwefror, gyda rhywfaint o adferiad ym mis Mawrth.

“Gyda llawer o wasanaethau ddim ar gael, roedd aelwydydd wedi arbed arian ar y lefelau uchaf erioed a dim ond yn ystod y gwanwyn y llynedd roedd mwy o arian wedi cael ei gynilo.”