Mae Plaid Cymru wedi beirniadu penderfyniad “byrbwyll” Llywodraeth Cymru i godi’r gwaharddiad ar droi pobol allan o’u cartrefi.
Bydd y gwaharddiad yn dod i ben yr wythnos hon ynghyd â llacio cyfyngiadau’r coronafeirws.
Mae Mabon ap Gwynfor, llefarydd tai Plaid Cymru, wedi mynegi pryder am nifer y bobol fydd yn cael eu gadael “mewn perygl” o ddigartrefedd.
Mae e hefyd o’r farn fod amseriad y penderfyniad yn “gwbl anghyfrifol”, gyda Chymru’n wynebu trydedd don Covid-19, diwedd y cynllun ffyrlo, a diwedd y cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol.
“Angen ymestyn y polisi”
“Mae codi’r gwaharddiad ar droi pobol allan o’u tai yn fyrbwyll ac yn rhoi pobol ledled Cymru mewn perygl o fod yn ddigartref,” meddai.
“Troi allan yw un o brif achosion digartrefedd, felly yn hytrach na siarad am ddigartrefedd a thaflu miliynau o bunnoedd at y broblem ar ôl iddo ddigwydd, byddai’n gwneud mwy o synnwyr i ymestyn y polisi hwn a rhoi’r gorau i ddigartrefedd cyn iddo ddechrau.
“Rydym ynghanol argyfwng tai lle mae miloedd o deuluoedd ar restrau aros.
“Mae angen i denantiaid fod yn hyderus, os ydynt yn talu rhent ac yn gofalu am eu cartref, nad oes perygl y byddant yn cael eu troi allan.
“Cafodd Llywodraeth Cymru gyfle i roi sicrwydd i denantiaid, ond maen nhw wedi penderfynu peidio â gwneud hynny.”
“Cymorth pellach”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cyflwynwyd yr amddiffyniadau troi allan i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a chadw pobol yn ddiogel ar anterth y pandemig.
“Fel yr ydym eisoes wedi cadarnhau, bydd y rheoliadau hyn yn dod i ben heddiw, yn unol â chodi cyfyngiadau eraill gan ein bod ar rybudd lefel un.
“Heddiw rydyn wedi amlinellu cynllun Grant Caledi Tenantiaeth newydd gwerth £10m i roi cymorth pellach i bobol sy’n ei chael hi’n anodd talu eu rhent oherwydd caledi ariannol a achosir yn uniongyrchol gan y pandemig.
“Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog unrhyw un sy’n cael problemau i siarad â’u landlord a chysylltu â Chyngor ar Bopeth Cymru neu Shelter Cymru am gyngor a chymorth pellach.
“Byddwn yn parhau i adeiladu ar y camau a wnaed i fynd i’r afael â digartrefedd yn ystod y pandemig wrth i ni ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym, gan ein bod yn cydnabod y straen a all ddod gyda byw mewn llety dros dro.
“Mae anghenion y rhai sy’n wynebu digartrefedd yn aml yn gymhleth, a dyna pam rydym yn parhau i ddarparu bron i £2m bob mis i awdurdodau lleol sydd wedi gweithio’n ddiflino i roi llety i fwy na 10,000 o bobol ers dechrau’r pandemig.
“Ein nod nawr yw atal digartrefedd, a sicrhau lle mae’n digwydd ei fod yn brin, yn fyr ac yn ddi-dâl.”