Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i dargedau bioamrywiaeth sy’n gyfreithiol rwymol, yn ôl Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mewn dadl yn y Senedd sydd i’w chynnal heddiw (dydd Mercher, Mehefin 30), bydd Plaid Cymru hefyd yn galw ar y Senedd i gydnabod yr argyfwng yn ffurfiol drwy ddatgan Argyfwng Natur.

Dywed Delyth Jewell mai’r bygythiad i fioamrywiaeth yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu Cymru a’i bod yn “hen bryd” cymryd camau i fynd i’r afael â dirywiad parhaus bioamrywiaeth.

Gyda’r fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang ar ôl 2020 i’w osod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol fis Hydref eleni, mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i gyflwyno targedau adfer natur.

‘Ni fyddwn yn goresgyn hyn’

“Mae argyfwng natur sy’n cydfodoli ochr yn ochr â’r argyfwng hinsawdd, ac oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r argyfyngau hyn gyda’n gilydd, ni fyddwn yn goresgyn hyn ychwaith,” meddai Delyth Jewell.

“Ond er bod gennym dargedau ar gyfer allyriadau carbon, nid oes mecanwaith cyfatebol ar gyfer natur; dim targedau i olrhain sut y byddwn yn cyfyngu ar golli bioamrywiaeth ac yn ei wrthdroi.

“Drwy fuddsoddi mewn natur, gallwn roi hwb i’n heconomi a chreu miloedd o swyddi.

“Os ydym wir am sicrhau Adferiad Gwyrdd yma yng Nghymru, mae angen inni fuddsoddi mewn adfer ein cynefinoedd a’n rhywogaethau, a chreu’r gweithlu gwyrdd sy’n gallu cyflawni ein targedau adfer natur.”