Mae dyn 23 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio’r plismon Matt Ratana yn y ddalfa fis Medi y llynedd.

Cafodd ei saethu’n farw yng ngorsaf heddlu Croydon yn ne Llundain ar Fedi 25.

Mae Louis de Zoysa o Banstead yn Surrey hefyd wedi’i gyhuddo o fod â dryll a ffrwydron yn ei feddiant.

Bydd yn mynd gerbron ynadon Westminster trwy gyswllt fideo yfory (dydd Mercher, Mehefin 30).

Mae e yn yr ysbyty ar hyn o bryd mewn cyflwr sefydlog.