Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru dros Addysg, yn dweud ei bod hi’n “hollol annheg” gofyn i ysgolion osod eu mesurau Covid-19 eu hunain.
Cyhoeddodd Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Addysg, ddydd Llun (Mehefin 28) y bydd modd i ysgolion, colegau a phrifysgolion “wneud penderfyniadau yn seiliedig ar gydbwysedd rhwng y peryglon a lleihau’r amharu ar addysg” ym mis Medi.
“Tra bod swigod ar gyfer dosbarthiadau wedi bod yn bwysig dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni angen sicrhau ein bod ni’n gwahaniaethu rhwng swigod ar un llaw a chysylltiad personol ag achosion ar y llaw arall,” meddai.
“Rydyn ni eisiau trafod sut gall lleoliadau ddychwelyd at eu hamseroedd arferol, yn hytrach na chael amseroedd dechrau a gorffen gwahanol fel sydd mewn grym nawr.
“Dydi’r mesurau hyn ddim yn golygu cael gwared ar yr holl fesurau lleihau risg, ond maen nhw’n ymwneud ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn gallu gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar gydbwysedd rhwng y peryglon a lleihau’r amharu ar addysg, i gyd yng nghyd-destun ehangach y rhaglen frechu lwyddiannus a niferoedd gweddol isel o achosion.”
‘Angen i arbenigwyr wneud penderfyniadau’
Ond yn ôl Siân Gwenlllian, mae staff addysgu eisoes yn wynebu’r “dasg enfawr” o gefnogi disgyblion ar ôl misoedd o gau ysgolion.
Ac mae hi’n dweud mai arbenigwyr ddylai wneud penderfyniadau o’r fath.
“Mae’n hollol annheg i weithwyr addysgu proffesiynol ysgwyddo’r baich o wneud penderfyniadau ar fesurau covid mewn ysgolion, ac mae’n creu cyfle am anghysondebau enfawr rhwng gwahanol ysgolion – beth sy’n digwydd pan fydd gan ysgolion cyfagos reolau hollol wahanol?” meddai.
“Mae angen i fesurau sydd â’r bwriad o gadw disgyblion, staff a’r gymuned ehangach yn ddiogel gael eu llywio gan ddata ac mae angen i arbenigwyr eu gwneud.
“Mae staff addysgu eisoes yn wynebu’r dasg enfawr o gefnogi disgyblion ar ôl misoedd o addysg goll.”
‘Tarfu cyn lleied â phosibl ar addysg dysgwyr’
“Ein nod yw tarfu cyn lleied â phosibl ar addysg dysgwyr,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn archwilio, drwy ein prosesau TTP, sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cymorth a’r mesurau sydd ar waith i gyfyngu ar nifer y dysgwyr y gofynnir iddynt hunanynysu.
“Byddwn yn gweithio gydag ysgolion, arbenigwyr iechyd a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu’r fframwaith cenedlaethol.”