Mae’r Aelod Seneddol Llafur Alun Davies yn dweud bod penderfyniad y Pwyllgor Busnes i beidio â chaniatáu i ddau aelod rannu’r swydd o gadeirio’r pwyllgor yn “hynod siomedig”.

Roedd Alun Davies a Mike Hedges am gael eu henwebu i gyd-gadeirio Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol y Senedd, ond cafodd y penderfyniad ei wrthod yn unfrydol.

“Mae’n ymddangos bod y Senedd yma’n siarad am radicaliaeth, ond mewn realiti, mae’n fwy o’r hen geidwadaeth lom,” meddai Alun Davies ar Twitter wedi i’r enwebiad gael ei wrthod.

Gan amddiffyn y penderfyniad, dywedodd y Llywydd Elin Jones y byddai’r cam yn golygu “peth newidiadau” i Reolau Sefydlog y Senedd.

Dywedodd Elin Jones ei bod hi wedi derbyn yr enwebiad brynhawn ddoe (dydd Llun, Mehefin 28), ac wedi rhoi’r cynnig i’r Pwyllgor Busnes fore heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 29). Er eu bod nhw’n awyddus i adolygu’r holl faterion, doedd hi ddim yn bosib gwneud hynny mewn cyfnod mor fyr o amser.

Yn ôl Sarah Rees, sydd wedi ysgrifennu adroddiad ar rannu swyddi yn y Senedd ar y cyd â’r cyn-Aelod Seneddol Bethan Sayed, byddai caniatáu hynny yn dod â mwy o amrywiaeth i’r Senedd.

Methu cyfle

“Fyswn i wedi hoffi cymryd y cyfle heddiw i enwebu Mike Hedges ac Alun Davies fel cyd-Gadeiryddion ar y pwyllgor,” meddai Hefin David, Aelod Seneddol Llafur Caerffili, yn ystod cyfarfod yn y Senedd er mwyn ethol cadeiryddion ar gyfer sawl pwyllgor.

“A rhaid dweud ei bod hi’n siomedig fod y Pwyllgor Busnes wedi penderfynu heddiw i beidio caniatáu i’r Cyd-Gadeiryddiaeth fynd ymlaen.

“A dw i’n teimlo ei fod e’n gyfle wedi’i fethu, a hoffwn roi hynny ar gofnod.”

“Hynod siomedig”

“Dw i’n hynod siomedig fod y Pwyllgor Busnes wedi cymryd y cyfle i atal yr enwebiad yma fore heddiw, a dim archwilio potensial i rannu’r swydd o gadeirio pwyllgor,” meddai Alun Davies, yr aelod Llafur dros Flaenau Gwent.

“Mae’n ymddangos i fi, ac i eraill dw i’n meddwl, fod hon yn gynnig straightforward, ac yn un a allai fod wedi’i osod o fewn Rheolau Sefydlog presennol.

“Mae’n ymddangos i fi fod y Pwyllgor Busnes heb roi’r ystyriaeth roedd e’n ei haeddu, ac mae’n ymddangos i fi ein bod ni mewn sefyllfa, yn y Senedd hon, lle nad yw’r aelodau mwyaf ceidwadol yn eistedd ar y meinciau Ceidwadol.”

“Awyddus i adolygu”

“I ymateb, ac yn dilyn y trafodaethau ynghylch pwyllgorau a chadeiryddion sydd wedi’u cynnal mewn Grwpiau ac ar y Pwyllgor Busnes dros yr ychydig wythnosau diwethaf, fe wnes i dderbyn enwebiad brynhawn ddoe gan Mike Hedges ac Alun Davies i rannu’r swydd o gadeirio’r pwyllgor,” meddai Elin Jones, Llefarydd y Senedd.

“Fe wnes i roi’r cynnig hwnnw i’r Pwyllgor Busnes heddiw, ac roedden nhw’n unfrydol fod dim cefnogaeth i wneud hyn.

“Byddai wedi golygu gwneud peth newidiadau yn ofynnol i’r Rheolau Sefydlog ac i’n gweithredoedd ni.

“Mae’r Pwyllgor Busnes yn awyddus i adolygu’r holl faterion hyn, ond nid oedd gwneud hynny mewn cyfnod mor fyr o amser yn rhywbeth oedd y Pwyllgor Busnes yn gallu cytuno i’w wneud o ystyried y ffaith ein bod ni’n edrych ar ethol ein cadeiryddion heddiw.

“Felly mae rhain yn faterion y gellir eu cymryd yn y dyfodol,” meddai Elin Jones gan atgoffa pawb eu bod nhw’n gallu cael eu henwebu ar gyfer y pwyllgorau.

“Does neb yn cael ei rwystro rhag gwneud hynny gan y Pwyllgor Busnes na’r Senedd. Mae hwn yn etholiad ar gyfer Cadeiryddion, ac mae pob Aelod yn gydradd wrth gymryd rhan yn y broses honno.”

“Amrywiaeth i’r Senedd”

“Fe gaethom ni nifer o argymhellion, ac un ohonyn nhw oedd ein bod ni’n edrych tuag at rannu swyddi mewn safleoedd uchel yn ystod y Senedd hon,” meddai Sarah Rees wrth golwg360.

“Pan rydych chi’n edrych ar yr holl gyfarfodydd a’r data ar hyn sydd wedi’i drafod yn y gorffennol, mae Aelod o’r Senedd bob tro wedi mynd yn ôl at ddweud fod rolau Portffolio, neu yn y Cabinet, methu cael eu rhannu, ac maen nhw’n anghofio’r darlun ehangach – y gallai weithio’n dda iawn i Aelodau’r Senedd, a phobol mewn swyddi uchel eraill.

“Roedd yna nifer o argymhellion, ond yn fyr yr hyn roedden ni’n trio ei ddweud oedd – pan ydych chi’n cynnig cyfleoedd i rannu swyddi, mae pobol yn dweud yn awtomatig ei fod e ar gyfer menywod, pobol sydd gan blant.

“Ond dydi e ddim, mae e ar gyfer dod ag amrywiaeth ehangach i’r Senedd.

“Rydych chi’n edrych ar bobol ag anableddau – os allen nhw’i wneud o wrth rannu swydd – rydych chi’n edrych ar entrepreuners, pobol sydd mewn swyddi sy’n gofyn am lot o amser.”

“Adlewyrchu cymdeithas”

“Os allech chi barhau i gael eich swydd bob dydd, a chael rôl rhan amser, byddai yna gymaint mwy o amrywiaeth yn y Senedd, a byddai’n dod â phob mathau o bobol at ei gilydd – sydd, fel rydyn ni’n gwybod, yn gwneud penderfyniadau gwell, ac sy’n adlewyrchu cymdeithas yn well,” meddai Sarah Rees wedyn.

“Felly byddai’n ein helpu ni i wneud y penderfyniadau allweddol hynny ynghylch cymdeithas.

“Un o’r ymgyrchoedd eraill y gwnes i weithio’n eang arni y llynedd oedd y cyfyngiadau mamolaeth, a doedd pobol ddim yn deall yr effaith wirioneddol mae rhai o’r pethau hynny’n ei chael ar fywyd pob dydd pobol.

“Y cynnydd anferth mewn gorbryder a phryderon iechyd meddwl i bobol sy’n disgwyl plentyn, a’u teuluoedd, oherwydd nad oedd y bobol o gwmpas y bwrdd yn gwneud penderfyniadau yn amrywiol, ac mae hynny’n chwarae allan mewn bywyd pob dydd.”