Mae Rhun ap Iorwerth, dirprwy arweinydd Plaid Cymru, yn dweud bod “safbwynt Llafur o blaid yr Undeb yn anghynaladwy” wrth i dlodi waethygu yng Nghymru – ac y dylai ac y gall datganoli fod yn “llinell amddiffynnol” rhwng Cymru a San Steffan.
Daw hyn ar ôl i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ddweud mai “trwy ddatganoli y bydd anghenion Cymru yn cael eu diwallu orau”.
Yn ôl adroddiad Sefydliad Bevan sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 29), mae mwy nag un o bob pump o aelwydydd yng Nghymru sydd ag incwm net o lai nag £20,000 wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm ers mis Ionawr eleni.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod un aelwyd o bob deg yn byw mewn ansicrwydd, gydag 80,000 o aelwydydd wedi gorfod gadael neu’n cael rhybudd i adael eu cartrefi.
Daw hyn wrth i’r Comisiynydd Plant rybuddio mai “tlodi plant yw her fwyaf Llywodraeth Cymru erbyn hyn”.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’r anghyfiawnderau economaidd a chymdeithasol sydd yng Nghymru’n deillio o fod wedi ein “clymu â San Steffan”, a bod y sefyllfa’n waeth yn sgil diffyg gweithgarwch Llywodraeth Cymru.
Mae hyn, meddai, yn cynnwys diffyg parodrwydd i ymestyn hawl plant i gael prydau ysgol am ddim a dileu’r gwaharddiad ar hawl landlordiaid i orfodi tenantiaid allan o’u cartrefi, a allai arwain at ragor o ddigartrefedd.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae tlodi’n “llawer rhy normal” erbyn hyn, a’r “unig ffordd o sicrhau cyfiawnder economaidd a chymdeithasol gwirioneddol yw rhoi dyfodol Cymru yn ei dwylo ei hun.
‘Galwad i ddeffro’
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’n rhaid i adroddiad Sefydliad Bevan fod yn “alwad i ddeffro”.
“Mae angen gweithredu brys arnom,” meddai.
“Os yw canfyddiadau adroddiad Sefydliad Bevan yn golygu unrhyw beth i’r Llywodraeth Lafur hon, fydden nhw ddim yn dileu’r rhwyd diogelwch ’dim troi allan’ oddi ar denantiaid yfory.
“Bydden nhw’n ymestyn cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim – gan ddechrau â’r rheiny o deuluoedd sy’n derbyn credyd cynhwysol.
“A fydden nhw ddim yn cadw at eu safbwynt fod y system fudd-daliadau’n “rhan o’r glud sy’n cynnal y Deyrnas Unedig” pan fo credyd cynhwysol wedi bod yn drychineb i deuluoedd yng Nghymru.
“Mae’r anghyfiawnderau economaidd a chymdeithasol hyn o ganlyniad i Gymru’n cael ei chlymu wrth San Steffan – ac wedi’u gwaethygu gan ddiffyg gweithredu’r Llywodraeth Lafur.
“Dylai, ac mi all, datganoli fod yn llinell amddiffynnol rhwng San Steffan a Chymru os caiff ei ddefnyddio i’w botensial llawn.
“Yr unig ffordd o sicrhau cyfiawnder economaidd a chymdeithasol gwirioneddol yw rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru, yn rhydd rhag anhrefn ac anallu San Steffan.
“Mae safbwynt Llafur o blaid yr Undeb yn anghynaladwy – allan nhw ddim bellach amddiffyn yr hyn nad oes modd ei amddiffyn.”