Mae plismon wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am ddynladdiad y cyn-bêldroediwr Dalian Atkinson.

Fe wnaeth Benjamin Monk ddefnyddio gwn Taser arno cyn ei gicio yn ei ben tra ei fod e ar lawr.

Cafwyd y cwnstabl yn ddieuog o lofruddio ond yn euog o ddynladdiad ar ôl i’r rheithgor yn Llys y Goron Birmingham glywed iddo adael olion lasau ei esgidiau ym mhen y cyn-ymosodwr, a hynny ar ôl defnyddio Taser arno am 33 eiliad.

Clywodd y llys nad oedd e wedi bod yn onest am y digwyddiad, gan honni iddo ei gicio unwaith yn ei ysgwydd.

Bu farw Dalian Atkinson, oedd wedi torri ffenest yn ystod pwl o salwch iechyd meddwl, ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i gartref ei dad yn Telford yn Sir Amwythig fis Awst 2016.

Yn ôl yr elusen Inquest, Benjamin Monk yw’r plismon cyntaf o blith heddluoedd Lloegr ers 1986 i’w gael yn euog o ladd rhywun yn anghyfreithlon yn y ddalfa neu yn dilyn cysylltiad â’r heddlu.

Roedd Monk yn honni ei fod e’n ceisio amddiffyn ei hun a’i fod yn “ofni” Dalian Atkinson, oedd yn 48 oed ac yn dioddef o afiechyd y galon a’r arennau, er ei fod e’n fwy na fe.

Ond cafodd hynny ei wrthbrofi drwy dystiolaeth fforensig, gan fod cleisiau dan groen Dalian Atkinson mewn sawl rhan o’i gorff.

Clywodd llys ddechrau’r wythnos fod Benjamin Monk wedi’i gael yn euog o gamymddwyn difrifol ddeng mlynedd yn ôl, ar ôl methu â rhoi gwybod i’w gyflogwyr pan wnaeth e gais am swydd iddo gael sawl rhybudd gan yr heddlu am ddwyn o siop ac am fod yn feddw.

Cafodd e barhau yn ei swydd yn dilyn gwrandawiad yn 2011, a hynny am nad oedd cofnod o’r rhybuddion ar gyfrifiaduron yr heddlu oherwydd rheolau’r heddlu ar y pryd ynghylch cadw cofnodion o hen droseddau.