Mae’r Llys Apêl wedi rhoi caniatâd i Lywodraeth Cymru apelio yn erbyn penderfyniad i’w hatal rhag lansio her gyfreithiol tros Ddeddf y Farchnad Fewnol.
Fis Ebrill, fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod rhoi caniatâd i her gyfreithiol Llywodraeth Cymru yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig tros y Ddeddf, gan ddweud bod y cais am adolygiad barnwrol “yn rhy gynnar”.
Wrth gyhoeddi’r camau cyfreithiol ym mis Ionawr, dywedodd Jeremy Miles fod y Ddeddf yn “ymosodiad” ar bwerau’r Senedd.
Er i’r her honno gael ei gwrthod, mae Cwnsler Cyffredinol newydd Cymru, Mick Antoniw, wedi cadarnhau heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 29) fod y Llys Apêl wedi rhoi caniatâd i Lywodraeth Cymru apelio yn erbyn y penderfyniad.
Dywedodd fod y Llys Apêl wedi dweud bod yna “resymau cryf dros wrando ar yr apêl yn y Llys Apêl, a bod yr achos yn codi materion pwysig ynghylch egwyddorion yn y cytundeb cyfansoddiadol rhwng y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig”.
Bydd dyddiad ar gyfer y gwrandawiad yn cael ei osod yn fuan.
‘Sarhad llwyr’
Ddechrau’r flwyddyn, dywedodd Jeremy Miles, sydd bellach yn Weinidog Addysg a’r Gymraeg, wrth golwg fod Deddf y Farchnad Fewnol yn “sarhad llwyr i’r setliad datganoli”.
Wrth gyflwyno’r cais cychwynnol i herio’r Ddeddf, roedd y cyfreithwyr, a oedd yn cynrychioli Jeremy Miles yn wreiddiol, yn dadlau bod yn rhaid “dehongli’r Ddeddf fel nad yw’n diddymu meysydd o gymhwysedd datganoledig”.
Maen nhw hefyd am i’r Uchel Lys ddatgan nad yw’r ‘pwerau Harri VIII’, fel y cyfeirir atyn nhw, yn caniatáu i San Steffan wneud “diwygiadau sylweddol” i gymhwysedd datganoledig Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Prydain wedi dadlau bod honiadau Jeremy Miles yn “ddamcaniaethol”, ac nad oes “dim yn Neddf y Farchnad Fewnol yn newid cymhwysedd datganoledig y Senedd”.