Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod caniatâd i her gyfreithiol Llywodraeth Cymru yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Ddeddf y Farchnad Fewnol drwy ddweud bod cais am adolygiad barnwrol “yn gynamserol”.
Wrth gyhoeddi’r camau cyfreithiol ym mis Ionawr, dywedodd Mr Miles fod y Ddeddf yn “ymosodiad” ar bwerau’r Senedd, ac hefyd yn cynnwys “pwerau Harri VIII eang” y gallai gweinidogion y Deyrnas Unedig eu defnyddio i “wanhau’r setliad datganoli”.
Mewn gwrandawiad yr wythnos ddiwethaf, gofynnodd Jeremy Miles i’r Uchel Lys ganiatáu gwrandawiad llawn yn hwyrach ymlaen eleni.
Bu i Lywodraeth Prydain ddadlau bod honiadau Jeremy Miles yn “ddamcaniaethol”, ac nad oes “dim yn Neddf y Farchnad Fewnol yn newid cymhwysedd datganoledig y Senedd”.
Gwrthod adolygiad barnwrol
Heddiw mae’r Uchel Lys wedi gwrthod rhoi caniatâd i’r achos fynd yn ei flaen, gan ddweud bod “yr hawliad am adolygiad barnwrol yn gynamserol”.
“Byddai’n well mynd i’r afael â hawliad sy’n ymwneud ag ystyr neu effaith darpariaethau deddfwriaeth y Senedd, neu a yw’r ddeddfwriaeth yn briodol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yng nghyd-destun cynigion deddfwriaethol penodol,” meddai’r Arglwydd Ustus Lewis, yn yr Uchel Lys.
“Mae’n amhriodol ceisio mynd i’r afael â materion o’r fath yn absenoldeb amgylchiadau penodol sy’n arwain at y dadleuon a godwyd gan yr hawlydd a chyd-destun deddfwriaethol penodol i brofi ac asesu’r dadleuon hynny.
“Yn yr un modd, mae’n amhriodol ceisio rhoi dyfarniadau cyffredinol, haniaethol ar yr amgylchiadau lle gellir arfer y pŵer i wneud rheoliadau sy’n diwygio’r Ddeddf (Marchnad Fewnol).”
Ychwanegodd y barnwr: “Gan fod yr hawliad am adolygiad barnwrol yn gynamserol, mae’n ddiangen, a byddai’n annoeth mynegi barn ar rinweddau neu ddifygion y dadleuon a godwyd gan yr hawliwr.”
Ymateb Llywodraeth Cymru: ystyried apêl
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Heddiw penderfynodd yr Uchel Lys ar y cais am ganiatâd i ddod ag adolygiad barnwrol o rannau o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.
“Mae’r cais am ganiatâd wedi cael ei wrthod ar y sail ei fod yn gynamserol yn hytrach nag a ellir gwneud y ddadl.
“Rhoddir ystyriaeth nawr i gamau pellach, gan gynnwys apêl.”
Ymateb Plaid Cymru: “siomedig”
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: “Mae’r dyfarniad hwn yn siomedig.
“Ei oblygiad yw bod yn rhaid i Gymru aros nes bod San Steffan wedi achosi’r gwaethaf o’i ymosodiadau ar ddatganoli cyn y gallwn weithredu. Erbyn hynny, ofnaf y bydd yn rhy hwyr.
“Mae dewis arall: drwy ethol Llywodraeth Cymru sydd o blaid annibyniaeth ar 6 Mai, gallwn sicrhau y bydd ein pwerau’n parhau i gael eu diogelu’n llawn yn nwylo pobl Cymru.
“Drwy bleidleisio dros Blaid Cymru gallwn sicrhau na all unrhyw lywodraeth Dorïaidd ddiystyru ein democratiaeth eto.”
Mae hyn yn siomedig. Ond mae yna ddewis arall.
Trwy ethol Llywodraeth Cymru sydd o blaid annibyniaeth ar 6 Mai gallwn sicrhau na all unrhyw lywodraeth Dorïaidd ddiystyru ein democratiaeth eto.#OBlaidCymru https://t.co/FM6sAgovAO
— Liz Saville Roberts AS/MP (@LSRPlaid) April 19, 2021
Cefndir: “Sarhad llwyr i’r setliad datganoli”
Ddechrau’r flwyddyn, dywedodd Jeremy Miles wrth Golwg fod y Deddf y Farchnad Fewnol yn “sarhad llwyr i’r setliad datganoli”.
Pan ddaeth i’r amlwg mai San Steffan fyddai’n penderfynu sut caiff yr arian ei wario yng Nghymru, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw’r arian yn “newydd nac yn ychwanegol” a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn tanseilio canlyniad dau refferendwm aeth o blaid datganoli i Gymru”.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Pwyllgor Senedd godi pryderon am ymyrraeth Llywodraeth San Steffan, ac mae gweinidogion o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon wedi dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn diystyru’r llywodraethau datganoledig.