Mae dros hanner y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn credu y dylid cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban os bydd yr SNP yn ennill mwyafrif yn Holyrood, yn ôl pôl piniwn.

Canfu arolwg Ipsos Mori fod cefnogaeth ar ei huchaf ymhlith pobol yng Ngogledd Iwerddon (66%) a’r Alban (56%), tra bod mwyafrif pobol yng Nghymru a Lloegr hefyd yn credu y dyid gallu cynnal pleidlais arall (51%).

Mae’r pôl piniwn hefyd wedi canfod bod mwy na hanner yn credu na fydd y Deyrnas Unedig yn bodoli ar ei ffurf bresennol mewn degawd.

Mae’r canfyddiadau’n dangos y byddai 51% ar draws y Deyrnas Unedig yn cefnogi ail refferendwm pe bai’r SNP yn ennill mwyafrif, gyda 40% yn dweud na fydden nhw ac 8% yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod.

“Pwynt tyngedfennol”

Dywedodd Emily Gray, rheolwr-gyfarwyddwr Ipsos Mori Scotland: “Mae etholiadau Senedd yr Alban ar Fai 6 yn edrych fel petai’n mynd i fod yn bwynt tyngedfennol yn nyfodol yr Undeb.

“Pe bai’r SNP yn ennill mwyafrif o seddi, fel sy’n edrych yn debygol os bydd lefelau presennol o gefnogaeth yn parhau, bydd yn llawer anoddach i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod ail refferendwm ar annibyniaeth.

“Ac mae’r ffigurau hyn yn awgrymu bod y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig, ar y cyfan, yn cytuno â’r camau hynny – mae mwy yn credu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ganiatáu ail refferendwm os bydd mwyafrif SNP na sy’n anghytuno.”

Roedd yr arolwg yn cynnwys sampl o 8,558 o bobol dros 16 oed yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd hanner cyhoedd y Deyrnas Unedig y byddai’n well ganddynt pe bai’r Alban yn pleidleisio yn erbyn dod yn wlad annibynnol pe bai refferendwm arall yn cael ei gynnal tra byddai’n well gan 17% iddynt bleidleisio o blaid annibyniaeth.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod barn wedi’i rhannu yn yr Alban – byddai’n well gan 46% i’w gwlad bleidleisio yn erbyn annibyniaeth tra byddai’n well gan 45% i Albanwyr bleidleisio o blaid annibyniaeth

Pobl yng Nghymru (51%) a Lloegr (57%) sydd fwyaf tebygol o fod eisiau i’r Alban bleidleisio yn erbyn gadael y Deyrnas Unedig.

“Mae pob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig yn unedig wrth gydnabod dymuniadau democrataidd pobol yr Alban, ond mae Boris Johnson a Keir Starmer yn parhau i fynd yn groes i weddill y wlad,” meddai Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP.

“Anghyfrifol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Nawr yn fwy nag erioed, mae pobol yn yr Alban eisiau gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio i ddiogelu bywydau a bywoliaethau.

“Mae’r ymdrech i gael refferendwm yn anghyfrifol.

“Mae’n tynnu sylw, pan fod angen i ni ganolbwyntio ar barhau i fynd i’r afael â’r pandemig ac ailadeiladu ein heconomi.”