Mae hosbisau yng ngogledd Cymru yn mynnu eu bod nhw’n derbyn yr un cyllid â hosbisau yn y de.

Yn ôl tair hosbis yn Llandudno, Llanelwy, a Wrecsam, maen nhw’n derbyn 16% o’u cyllid gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bob blwyddyn.

Golyga hyn fod yr 84% arall yn dod drwy roddion cyhoeddus, ac ymdrechion i godi arian.

I gymharu, mae hosbisau yn y de, ac yn Lloegr, yn derbyn rhwng 30% a 40% o’u cyllid gan eu byrddau iechyd bob blwyddyn.

Mae’r tair hosbis wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd am 30% o’u cyllid er mwyn talu am gostau clinigol, ac mae Prif Weithredwr Hosbis Dewi Sant yn Llandudno yn dweud fod hosbisau’r gogledd wedi cael eu “tanariannu” ers rhy hir.

“Cyfle cyfartal”

“Rydym wedi trio trafod gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers blynyddoedd, ond nid oes dim byd wedi digwydd, dim byd wedi newid, na dim problem wedi’i datrys,” meddai Trystan Pritchard, Prif Weithredwr Hosbis Dewi Sant.

“Nid ydym ni eisiau mwy na neb arall, ac nid ydym ni’n gofyn am driniaeth arbennig. Rydym ni eisiau cael cyfle cyfartal i hosbisau’r ardal – ni ddylai hynny fod yn ormod.

“Mae lefel ein gofal cystal ag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig; rydym ni’n cynnig gwasanaeth dosbarth cyntaf, ac mae teuluoedd a chleifion y gogledd yn haeddu gwell.

“Mae gwely hosbis yn costio £600 y noson, ac mae’r bwrdd iechyd yn talu £100 o hwnnw, felly byddai cyfraniad o 30% ganddynt yn gyfaddawd teg,” esbonia Trystan Pritchard.

Gan nad yw ysbytai yn cynnig gofal seibiant, na gwelyau diwedd oes arbenigol, mae’r holl bwysau ar hosbisau i gynnig y gofal yma, meddai Trystan Pritchard.

Galw am “unffurfiaeth”

Mae Steve Parry, Prif Weithredwr Hospis Tŷ’r Eos yn Wrecsam, yn credu bod angen cysoni cyllideb statudol i hosbisau ar draws Cymru.

“Byddai cyllido statudol yn cynnig sylfaen ariannol i hosbisau allu datblygu a chynnal gwasanaethau cleifion i’w cymunedau,” meddai Steve Parry.

“Mae’r pwysau sydd wedi dod yn sgil y pandemig wedi amlygu’r angen am sylfaen ariannu teg. Ni all y Bwrdd Iechyd barhau i anwybyddu’r broblem, ni fydd yn mynd i ffwrdd.”

“Ni fyddwn ni yn – ac ni ddylwn ni orfod – parhau i ddibynnu ar weithredoedd da ein cymunedau i sicrhau ein bod ni’n goroesi,” ychwanega Iain Mitchell, Prif Weithredwr Hosbis Sant Kentigern yn Llanelwy.

“Rydym ni’n cymryd cleifion o ysbytai’r GIG, ac yn gwneud yn siŵr nad yw rhai cleifion yn gorfod mynd i ysbytai yn y lle cyntaf.

“Rydym yn gofalu amdanynt yn ein hosbisau, ond nid yw’r Bwrdd Iechyd yn ariannu cyfran deg o’r gost sylweddol hon er bod manteision amlwg iawn o ran gofal cleifion, ac arbedion clir.

“Mae hosbisau St Kentigern, Dewi Sant, a Thŷ’r Eos yn unig yn cyflogi mwy na 300 o staff, yn cyfrannu at yr economi, ac yn gweithio law yn llaw â phartneriaid ledled Cymru, a thu hwnt, i ddarparu gofal diwedd oes.

“Rydym ni am gael unffurfiaeth ar draws hosbisau Cymru, ar adeg pan mae mwyaf o angen hynny.”

“Cydnabod yr her ariannol”

“Mae hosbisau yn cynnig gwasanaethau eithriadol o bwysig, ac rydyn ni’n cydnabod y gefnogaeth enfawr y maen nhw’n ei chynnig i gleifion, teuluoedd, a gofalwyr,” meddai Dr Chris Stockport, Prif Weithredwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Rydyn ni’n cydnabod yr her ariannol sy’n wynebu hosbisau yn y gogledd, yn arbennig yn ystod y pandemig, ac rydyn ni’n gweithio i roi’r gefnogaeth fwyaf posib iddyn nhw.

“Fodd bynnag, mae angen cyllid ychwanegol sylweddol ar y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn uniongyrchol i’r cyhoedd hefyd, megis arian i gefnogi ymdrechion i leihau’r rhes o gleifion sy’n disgwyl am driniaeth oherwydd Covid-19.

“Rydyn ni wedi darparu cynnydd uwch na chwyddiant i hosbisau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda nhw er mwyn parhau i gynyddu ein cyfraniad yn y dyfodol, gan beidio ag amharu ar wasanaethau craidd ein Gwasanaeth Iechyd.”