Bydd mwy o fenthyciadau ar gael i bobol brynu tai gyda blaendal o 5% yn unig o heddiw ymlaen (Ebrill 19), wrth i raglen forgeisi newydd ddod i rym.
Dan gynllun newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd nifer o fenthycwyr morgeisi yn cynnig benthyciadau ar gyfer pobol gyda blaendaliadau bychan.
Mae Lloyds, Santander, Barclays, HSBC UK, a NatWest ymysg y cwmnïau cyntaf i lansio’r rhaglen, a bydd Virgin Money yn gwneud yr un fath fis nesaf.
Ar ddechrau’r pandemig, roedd llawer llai o forgeisi ar gael ar gyfer pobol â blaendaliadau bychan gan fod benthycwyr yn fwy gofalus ynghylch cynnig benthyciadau a fyddai’n fwy o “risg”.
Bydd y rhaglen newydd yn mynd i’r afael â hyn drwy helpu pobol sy’n prynu am y tro cyntaf, a phobol sydd eisoes yn berchen ar dŷ, i gael morgais gyda 5% o’r blaendal ar dai sy’n costio hyd at £600,000.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd 69% o bobol sy’n rhentu ac sydd wedi chwilio am forgais nad oedd yn bosib dod o hyd i lawer o gynigion ar gyfer pobol gyda blaendal bychan.
“Helpu teuluoedd”
“I ormod o bobol, waeth pa mor galed maen nhw’n gweithio, mae bod yn berchen ar dŷ y tu hwnt i’w cyrraedd,” meddai Gweinidog Cartrefi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Robert Jenrick.
“Un o’r rhaniadau mwyaf yn y wlad yw’r un rhwng pobol sy’n gallu fforddio cartref eu hunain, a’r rhai sydd methu.
“Dyna pam ein bod ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd sy’n gweithio’n galed, a phobol sy’n bwriadu prynu am y tro cyntaf, i brynu mewn ffordd hawdd a fforddiadwy.
“Bydd y rhaglen forgeisi newydd, sy’n dod i rym heddiw, yn rhoi’r hyder i fenthycwyr allu rhoi arian, a bydd yn helpu teuluoedd a phobol ifanc i brynu eiddo heb orfod cael blaendal mawr.
“Gyda’n gilydd gallwn newid y Genhedlaeth Rhentu yn Genhedlaeth Brynu.”
Ar y cyfan, bydd modd defnyddio’r rhaglen er mwyn prynu tai newydd a thai sy’n bodoli’n barod.
Bydd y rhaglen yn rhedeg nes Rhagfyr 31 2022, a bydd benthycwyr yn gallu hawlio arian yn ôl gan y Llywodraeth pe bai tŷ’n cael ei ailfeddiannu.
Mae’r cynllun yn efelychu rhaglenni sydd wedi’u profi eisoes, megis y rhaglen Cymorth i Brynu a gafodd ei chyflwyno yn 2013 yn dilyn prinder tebyg mewn cynigion morgeisi ar gyfer pobol a blaendaliadau bychan ar ôl argyfwng ariannol 2008.
Fe wnaeth y rhaglen honno helpu 100,000 o bobol i brynu tai ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae’r rhaglen wedi cael ei lansio ar adeg pan mae prisiau tai ar eu huchaf, ac mae adroddiad gan Rightmove yn dweud ei bod hi’n debygol y bydd prisiau yn parhau i godi dros y Gwanwyn.