Mae Boris Johnson wedi canslo ei ymweliad a Delhi wythnos nesaf wrth i’r argyfwng coronafeirws waethygu yn India, a phryderon am amrywiolyn newydd yno.

Mae ymweliad y prif weinidog bellach wedi cael ei sgrapio’n gyfan gwbl a bydd nawr yn siarad gyda Narendra Modi, prif weinidog y wlad, yn ddiweddarach yn y mis.

Bu’n rhaid canslo’r daith ym mis Ionawr oherwydd yr ail don o Covid yn y Deyrnas Unedig ac yna cafodd ei ymweliad pedwar diwrnod ei gyfyngu i un diwrnod, cyn cael ei ganslo’n gyfan gwbl.

Mewn datganiad ar y cyd rhwng llywodraeth Prydain ac India, dywedodd Downing Street y bydd y ddau brif weinidog yn “lansio cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer partneriaeth yn y dyfodol rhwng y Deyrnas Unedig ac India.

“Fe fyddan nhw’n parhau i gadw mewn cysylltiad ac yn edrych ymlaen at gwrdd â’i gilydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”

Daw hyn wrth i Delhi Newydd ddechrau cyfnod clo am wythnos i geisio mynd i’r afael a chynnydd mawr mewn achosion, ac er mwyn ceisio gwarchod gwasanaeth iechyd y brifddinas.