Mae RSPB Cymru [Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar] wedi dadorchuddio cerflun enfawr o farcud coch y tu allan i Gastell Caerdydd heddiw (dydd Llun, Ebrill 19).
Mae’n nodi lansiad Adfywio Ein Byd, ymgyrch sy’n pwyso am dargedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol i adfer byd natur erbyn 2030, ac am adferiad gwyrdd o’r pandemig.
Mae’r ymgyrch yn galw ar i’r Llywodraeth Cymru nesaf roi Adferiad Cyfiawn a Gwyrdd ar waith trwy “greu swyddi gwyrdd, amddiffyniadau amgylcheddol, moroedd a thir gwydn a chyfoethog, dinasyddion iach ac arweinyddiaeth gref.”
“Cyfleoedd enfawr”
Dywedodd Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: “Mae llwyddiant y barcud coch yng Nghymru yn enghraifft o’r hyn sy’n bosibl gyda’r warchodaeth a’r gefnogaeth gywir ar waith. “Mae eleni yn darparu cyfleoedd enfawr, a ddônt ar adeg pan mae angen newid ar frys arnom i adfywio ein byd.
“Yn ddiweddarach eleni, cynhelir dwy uwchgynhadledd fyd-eang ar fioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd ac mae’r etholiadau sydd ar ddod yng Nghymru yn rhoi cyfle i bob un ohonom lunio’r dyfodol byd natur yr ydym ei eisiau.
“Pa ffordd well o arddangos y potensial ar gyfer adfywiad byd natur na gyda cherflun hardd o’r barcud coch eiconig.”
“Stori lwyddiant cadwraethol anhygoel”
Mae’r cerflun, a wnaed o adnoddau ecogyfeillgar, yn cynrychioli adfywiad y barcud coch a chafodd ei ddylunio a’i adeiladu gan yr artist Sarah Wardlaw o Fae Colwyn.
‘’Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy nghomisiynu i greu’r gwaith hwn ar gyfer ymgyrch Adfywio Ein Byd yr RSPB,” meddai’r artist Sarah Wardlaw.
“Mae’r barcud coch yn stori lwyddiant cadwraethol anhygoel yng Nghymru, ond mae’n atgoffa rhywun o ba mor fregus yw bywyd a pham y dylem ei drysori.
“Fel arlunydd, credaf y gallwn gyda’n gilydd helpu i atal difodiant ac amddiffyn bywyd gwyllt os ydym yn defnyddio ein straeon unigol ac yn rhoi rhyddid i’n dychymyg ddatblygu a bod yn ddiderfyn.
“Os bydd rhywogaethau’n marw, mae ein breuddwydion yn marw gyda nhw.’’
Yn cyd-redeg â lansiad yr ymgyrch, bydd enillydd gwobr gerddoriaeth Cymru, Gareth Bonello, yn rhyddhau sengl dan y teitl Adfywio/Revival, a fydd ar gael i’w lawrlwytho ar Spotify o ddydd Gwener (Ebrill 23).